Eleni cafwyd ymateb llwyddiannus er gwaetha'r tywydd gwlyb ar y dydd Sadwrn. (Mae'n amlwg nad yw tipyn o law yn amharu ar frwdfrydedd cerddwyr go iawn). Dros y ddau ddiwrnod fe ddaeth tua 100 o gerddwyr i gyd i gymeryd rhan yn y teithiau. Yn cychwyn ben bore Sadwrn am 9 o'r gloch arweiniwyd taith gan warden y Parc Nikki Wallis, ac yna yn ystod y bore cafwyd tair taith arall oedd yn cynnwys taith hanesyddol dan arweiniad Steffan ab Owain yn cychwyn yn nghanol y niwl a'r glaw o Dŷ Nant y Beddau i fyny tuag at Tŷ'r Puro Dŵr (Llyn Morwynion) ac ymlaen i Fryn Castell, ond bu rhaid osgoi cario ymlaen ar yr uchelderau gan fod y niwl mor drwchus a throi'n ôl i lawr tuag at Hafod Ysbyty ac yn ôl trwy gwm Teigl.
Aeth taith Edward Llwyd a drefnwyd ar y cyd â'r ŵyl, i weld gogoniant Cwm Bowydd dan arweiniad Vivian Parry Williams. Doug Oliver, warden Cyngor Cefn Gwlad oedd yr arweinydd ar y daith drwy goedydd dyffryn Ffestiniog.
Thema'r daith oedd hanes datblygiad gwarchodfeydd natur y coedlannau. Cludwyd y cerddwyr gyda bws mini i lawr i Orsaf Tanybwlch ac yn ôl i'r Blaenau ar y trên bach.
Yn ystod y dydd cynhaliodd Clwb Enweiriol Cambrian ddiwrnod agored o arddangosfa a hyfforddiant 'sgota yn Llyn Bwlch y Ffridd a chafwyd nifer, rhan fwyaf yn blant, i'r achlysur.
Ar y nos Sadwrn cafwyd noson ddiddorol yng nghwmni y delynores ifanc Angharad Jones a Peter Lewin o Rheilffordd Ffestiniog gyda lluniaeth yng ngwesty'r Frenhines. Cawsom wybod am y 'Drên Siarad' sef trên arbennig sydd yn egluro hanes yr ardal fel mae'n teithio i fyny o Borthmadog i Danybwlch trwy ddefnyddio'r dechnoleg fodem o offer llaw MP3.
Y bore Sul canlynol cychwynnodd criw o gerddwyr i fyny at Lyn Gamallt. Nid oedd niwl y diwrnod yma ac yr oedd yr haul yn gwenu o'r diwedd.
Dafydd Thomas fu'n arwain ar ôl i'r cerddwyr gyrraedd Dubach y Bont mewn bws mini. Aethant heibio ardal y Gamallt, y Manod Mawr a'r llynnoedd ac yn ôl i'r Blaenau. Arweiniwyd yr ail daith gan Jim Buckley.
Aed a bws mini i Gongl y Wal ac yna ymlaen i Fryn Castell a Llyn Morynion. Aethant i lawr at Rhydsarn lle'r oedd y bws mini yn eu haros. Roedd angen lefel da o ffitrwydd i fynd ar y daith i Garreg Blaen Llyn a Chraig Stwlan.
Yr arweinydd oedd Nikki Wallis o Barc Cenedlaethol Eryri. O Argae Stwlan aethant ar hyd godrau'r Moelwyn ac yna i chwarel Y Rhosydd i Gwmorthin ac yn ôl i Danygrisiau. Taith drefol a ddewiswyd gan yr arweinydd Rhian Williams, ac olrheinwyd agweddau y dref.
Diddorol oedd gweld cyfeiriadau'r cerddwyr - rhai wedi dod mor bell â Rochdale, Lerpwl a De Cymru. Mwynhawyd y teithiau'n fawr a gobeithiwnweld mwy eto y flwyddyn nesaf.
Hefyd yn ystod y dydd cynhaliwyd cystadleuaeth bysgota ar Lyn Tanygrisiau. Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd rhwng dau aelod o First Hydro Sports & Social sef Michael Hyde a Gwyrfai Price a Chyfle Ffestiniog.
Mwynhawyd y diwrnod gan 78 o bysgotwyr gydag amryw o rai ifanc yn eu mysg.
Yr enillwyr oedd:
Oedolion
1af Medwyn Griffiths, Llan Ffestiniog
2il A Parry Wrecsam
3ydd Gareth Griffiths Abergele.
Ieuenctid
1af Iolo Davies
2il Owain Jones
3ydd Thomas Ayres a Jamie Jones.
Dymuna Cyfle Ffestiniog ddiolch yn fawr i bawb fu yn ymwneud â gweithgareddau'r ŵyl fel ei bod yn llwyddiant eto eleni.