Beth mae'r geiriau uchod yn tynnu i'ch meddwl? Ai troi at yr atgof o berson yn cysgu lawr rhyw heol gul, lawr ochor stryd y gwnaethoch? Neu rhywun yn erfyn arnoch am gardod tra'ch bod yn hastio heibio? Dyna, yn wir, yw'r darlun cyntaf a ddaw i feddwl y rhan fwyaf ohonom - ond ysgwn i faint ohonom aeth ymlaen i feddwl "dylsa fod yna rhywbeth yn cael ei wneud i geisio gwarchod pobol ifanc rhag hyn." A faint ohonom sydd yn ymwybodol o'r gwasanaeth mae cwmni gwirfoddol fel G.I.S.D.A. yn ei gynnig i bobol ifanc rhwng 16 a 25 oed i geisio eu arbed rhag cyrraedd y pwynt o orfod cysgu ar y stryd?
Fe ffurfiwyd G.I.S.D.A. ym 1985, mewn ymateb i bryderon am y nifer o bobl ifanc o'r oedran yma a oedd yn ddigartref yn ardal Caernarfon. Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi ehangu mewn ymateb i anghenion lleol, a bellach yn medru cynnig ei wasanaeth i ardal Gwynedd i gyd. Mae'n gweithredu fel sefydliad annibynnol yn y sector gwirfoddol mewn partneriaeth â Tai Eryri, ac yn derbyn ceisiadau am lety a chefnogaeth yn uniongyrchol gan berson neu gan asiantaethau statudol. A bod yn onest, does dim sefydliad arall yn wir yn cystadlu o ddifri yn erbyn G.I.S.D.A. yn y maes y mae'n gweithredu ynddo, ac mae'n cael ei gydnabod am ei arbenigedd ar gefnogi pobol ifanc digartref.
Felly, beth yn union yw'r gwasanaeth y mae G.I.S.D.A. yn ei gynnig, a beth yw ei nod? Fe af ymlaen i egluro. Prif nod y cwmni yw "i alluogi pobl ifanc i fyw yn annibynnol, ac i'w cefnogi, ac eu galluogi, i feithrin y lefel uchaf bosib o annibyniaeth er mwyn gallu cynnal ei gartref ei hun, a bod yn aelod gyflawn o'r gymdeithas y mae yn dymuno byw ynddi." A thrwy'r amryw gynllun ar gael drwyddo, mae'n ceisio cynnig y math o gartref a fydd y fwyaf addas ar gyfer yr unigolyn. Yna cynigir hefyd becyn gofal sydd yn addas i anghenion yr unigolyn, ac mae hyn yn cael ei gyd lunio rhwng yr unigolyn a'r weithiwr/wraig penodol. Yn arferol mae'r gofal yma'n ehangu ar draws y maes eang o feithrin sgiliau byw priodol. Gall yr hyn gynnwys cyllido, coginio, glendid cartref a phersonol, gweithredu a'r awdurdodau (llythyru, llenwi ffurflenni, a.y.y.b.).
Fe af yn fy mlaen i geisio egluro'n fras i chwi beth yw'r gwahanol gynlluniau ar gynnig:
Cyllun Hosteli - bwriad y cynllun hwn yw darparu llety dros dro i bobl ifanc sengl digartref fel y cam cyntaf iddynt lwyddo i gyrraedd nod y cwmni, h.y. byw'n annibynnol. Bydd pob unigolyn yn cael gweithiwr allweddol a bydd yn gyfrifol am ei gefnogaeth cyffredinol.
Cynllun Symud Ymlaen - mae'r cynllun yma'n galluogi person ifanc i fyw mewn eiddo parhaol, tra'n derbyn cefnogaeth gan G.I.S.D.A. am chwe mis o leiaf, hyd eu byddant yn barod i fyw'n annibynnol.
Cynllun Cartrefi Cymunedol - mae'r cynllun hwn yn cefnogi pobl ifanc i fywn annibynnol yn y gymuned mewn tai rhannu, gyda'r gobaith iddynt symud ymlaen i eiddo parhaol. Yn ogystal, mae'r cynllun yn derbyn tenantiaeth eiddo cyngor ar ran pobl ifanc hyd nes iddynt fod yn ddeunaw oed. Mae'r cynllun yma hefyd yn cynnal sesiynau galw i mewn wythnosol yn ardaloedd Meirionnydd, Dwyfor ac Arfon.
Cynllun Rhiant Sengl - mae'r cynllun hwn yn cynnig gwasanaeth i rieni sengl, rhwng 16 a 25 oed, neu ferched sy'n feichiog o'r un oedran. Mae tri ffynhonnell i'r cynllun hwn:
1. Hosteli - tai dwy lofft, wedi'i dodrefnu'n gyflawn, llety dros dro. 2. Symud ymlaen - yn bennaf i'r rhai sy'n symud allan o'r cynllun hosteli - ar wasgar, yn dibynnu ar yr angen.
3. Cyngor - derbyn tenantiaeth i'r rhai o dan ddeunaw oed, yn byw mewn eiddo cyngor. Teimlaf y dylaf ychwanegu bod gwasanaeth cynghorwraig profiadol ar gael iddynt i gyd, pe baent yn teimlo eu bod a phroblemau fwy dwys na'r arferol.
Fel y gwelwch, mae'r cynlluniau yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaeth yn y gobaith o fedru galluogi pobl ifanc o bob math o sefyllfaoedd i fedru byw'n annibynnol yn eu cymuned, a thrwy hyn mae gobaith yn codi iddynt. Drwy hyn mae G.I.S.D.A. wedi bod o fudd i sawl unigolyn a oedd angen cymorth, ac wedi eu galluogi i symud ymlaen yn llwyddiannus yn eu bywyd, drwy eu hyrwyddo i fynychu cyrsiau coleg neu hyfforddiant a llawer ffordd arall. Mae sawl un bellach, fel Megan Thorman, sydd bellach â thy ei hun ac yn dal swydd yn yr Halifax, yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a'r llety y derbyniodd gan G.I.S.D.A., tra'r aeth drwy gyfnod cymhleth ac unig yn ei bywyd.
Yn wir, yn fy marn i, dyma i chwi fudiad buddiol iawn i'r gymuned sydd yn cynorthwyo pobl ifanc ar adegau sydd yn gallu bod yn egar iawn arnynt. Fedra'i ddim ond diolch i'r drefn fod cwmnïau fel G.I.S.D.A. wedi cael eu sefydlu, o leiaf wedyn mae'r dewis yn cael ei gynnig i'r ifanc a gyda phob dewis daw gobaith.
Catrin Roberts