BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Car ralïoCamp ralïo'r ddau frawd
20 Ionawr 2004
Rai blynyddoedd yn ôl bellach, golygfa gyfarwydd i unrhyw un oedd yn arfer teithio i fyny trwy Bontllwyd am ffordd y Migneint oedd gweld dau lanc yn gwibio ar feiciau sgramblo dros dir llechweddog ffarm Llety Fadog.

Weithia gellid taeru eu bod nhw'n hedfan wrth i'r beic a nhwtha adael y ddaear am eiliada ar y tro cyn glanio'n gyffrous o beryglus wedyn lathenni yn is i lawr ar y llethr. Doedd dim rhaid bod yn arbenigwr o unrhyw fath i sylweddoli cymaint o giamstars oedd y ddau ifanc ar y gamp honno. Erbyn hyn, mae Ieuan a John Rowlands wedi cymryd at gamp ychydig yn wahanol, sef ralïo ceir, ac yn dangos yr un math o ddawn a phenderfyniad yn hon hefyd.

Mae ralïo yn hobi costus ar y gora a breuddwyd pob raliwr gwerth ei halan ydi datblygu'n ddigon da i ddal llygad rhai o'r cwmnïau ceir adnabyddus a chael ei noddi gan un ohonyn nhw. Braf ydi cael deud bod hynny ar fin digwydd i Ieu Rowlands, yn dilyn blwyddyn hynod o lwyddiannus yn ei hanes.

Un o'r ralïau mwyaf cystadleuol ym Mhrydain ar hyn o bryd ydi'r Rali Kumho. Mae'n denu cystadleuwyr o bob un o'r pum cyfandir ac eleni roedd bron i 300 o yrwyr profiadol a gobeithiol wedi dod at ei gilydd i gystadlu yn y pum cymal: yn Llangollen i ddechra, wedyn Abertawe, yna Llandrindod, yna Castle Douglas yn yr Alban ac yn olaf yng nghyffiniau'r Amwythig.

Er mai gyriant dau olwyn sydd ar ei gar, eto i gyd fe deimlai leu yn ddigon hyderus i gystadlu yn erbyn y rhai gyriant pedwar olwyn yn ogystal. Trwy ennill yn Llangollen, yr Alban ac Amwythig a dod yn ail yn Llandrindod ac yn drydydd yn Abertawe, fe gipiodd yr hogyn o Llan y wobr gynta yn y Kumho. A phwy enillodd yn nosbarth y gyriant dau olwyn? Wel neb llai na'i frawd John!

Y gystadleuaeth nesa oedd Pencampwriaeth Gogledd Cymru. Yr un canlyniad yn honno wedyn Ieu yn gynta' a John yn ail iddo!

Yn y cyfamser, cafodd Ieu ei dderbyn i gystadlu am Ysgoloriaeth ProSpeed Motorsport a gâi ei threfnu gan gwmni Peugeot, lle disgwylid i'r rhai oedd yn cymryd rhan ddangos eu gallu yn gyrru dau fath o gar. Peugeot 206 a'r Golf Gti. Tasg gynta'r beirniaid oedd dethol y 200 gorau ar gyfer yr ail rownd a thynnu'r rheini wedyn, yn y drydedd rownd, i lawr i 6 yn unig, i ddewis pencampwr ohonyn nhw. A'r hogyn o'r Llan ddaeth eto i'r brig!

Mae'r fuddugoliaeth fawr honno wedi tynnu llygad ralïwyr a chwmnïau ceir o bob rhan o'r byd ac wedi sicrhau nawdd gwerth £60,000 i Ieu gan gwmni Peugeot i gystadlu rwan yn y Peugeot Winter Cup, un o brif atyniadau'r calendr ralïo. Bydd pwy bynnag fydd yn ennill honno yn derbyn cymaint eto (os nad mwy) o nawdd oddi wrth gwmni Peugeot i gystadlu yn ystod 2004.

Tri chymal sydd i gystadleuaeth y Winter Cup ac mae'r cynta eisoes wedi cael ei gynnal yn Galloway Hills yn yr Alban. A phwy enillodd, medda chi? Oes raid deud? Erbyn i'r rhifyn hwn o Llafar Bro eich cyrraedd bydd yr ail gymal, sef Rali'r Barcud Coch yn Llanymddyfri, hefyd wedi bod. Yn y Forest of Dean y cynhelir y trydydd cymal, rywbryd yn mis Chwefror.

O ganlyniad i ennill Ysgoloriaeth ProSpeed, mae Ieu, bellach, yn cael criw o fecanyddion dethol Peugeot i ofalu am ei gar yn ystod pob rali. Clod o'r mwya' i John ei frawd ydi ei fod ynta wedi cael ei ddewis yn un o'r rheini. Eto i gyd, er y fath lwyddiant, allwch chi ddim dychmygu dau mwy diymhongar na nhw.

Llongyfarchiada o'r mwya, hogia. Mae Stiniog a'r ardal gyfan yn falch ohonoch chi ac yn dymuno llwyddiannau lu ichi eto.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy