Er bod cofnodion hwnt ag yma am gynllun DOLWEN, MAENTWROG A THANYGRISIAU nid oes ysgrif lawn o'r hanes sydd yn ymestyn o'r 1890au, ar gael. Nid oedd hanesydd gwell i'w gael na Vivian ei hun, cyn lywydd 'Y Fainc' a chyn weithiwr ym Mhwerdy Tanygrisiau, ac fe dalodd ar ei ganfed gan i Magnox Electric plc ac Edison Mission Energy roddi pob cymorth gyda dogfennau a lluniau. Hefyd cafwyd cymorth ariannol ganddynt, ynghyd a Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd at gyhoeddi y ddarlith.Dolwen yw y man cychwyn o hyd, a ffurfiwyd cwmni Yale Electric Power Company Limited yn Ionawr 1899 a chodi gorsaf drydan ar lan afon Goedol ar dir oedd ar brydles gan fferm Dolwen, ac erbyn 1924 roedd y gwaith mewn llaw i gael gorsaf fwy o lawer yn Nyffryn Maentwrog. Ond yn 1955 daeth Stiniog i fri unwaith yn rhagor pan y penderfynwyd sefydlu cynllun storfa bwmpio - y cyntaf o'i fath ym Mhrydain - yn Ystradau, Tanygrisiau.
Cododd cwmni Yale bwerdy Dolwen wedi cael hawl i dynnu dŵr o lynnoedd Conglog, Cwmcorsiog, Cwmorthin a Stwlan a'r chwareli yn awchu am gael gwneud defnydd o'r egni 'rhyfeddol' yma. Ymddengys mai tref Stiniog oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ynni trydan i oleuo y strydoedd (1902) a Stesion Gret (GWR) oedd y gyntaf yn adran Caer a oleuid gan drydan, ac erbyn 1902 roedd strydoedd Llan wedi dod i'r rhwydwaith.
Ceir hanes y newidiadau a fu ar draws y blynyddoedd fel y cynyddai'r angen e.e. erbyn 1937 disodlwyd yr hen sustem Direct Current (DC) i drefn cerrynt eiledol Alternative Current (AC) ac yn wir parhaodd Dolwen i gyflenwi rhai o'r gofynion hyd 1964.
Deugain mlynedd yn gynharach dechreuwyd ar gynllun 'aruthrol o fawr' o godi pwerdy ym Maentwrog (1924-28) pryd y cyflogwyd tua 600 o ddynion yn ystod cyfnod y gwaith, oedd yn gofyn am foddi ardal Gors Goch, a sawl cartref i fynd o dan y dŵr. Roedd Pandy'r Ddwyryd i fynd, hen gartref Lowri Williams a chrud Methodistiaeth ym Meirion, a chapel bach Cae Adda, a hynny heb dim stŵr, yn wahanol iawn i amser Tryweryn. Ond yn y dauddegau roedd pwyslais ar waith i atal y tlodi. Codwyd argae mawr ar draws afon Prysor. Daeth Llyn Trawsfynydd i fod, oedd i'w ddefnyddio yn ddiweddarach yn y gwaith o greu trydan efo ynni niwclear.
Mae cefndir hanes pwerdy Maentwrog i gyd yn y ddarlith, ynglŷn â llawer o luniau cynnar o'r Main Dam; Argae Hendre Mur; Argae Gyfynys ag eraill.
Mae Pwerdy Maentwrog yn dal i gynhyrchu, ac wedi ei foderneiddio yn 1994 gyda'r gobaith o weld ei ddefnydd am 60 mlynedd arall o leiaf. Wrth godi cynllun storfa bwmpio cyntaf Prydain yn Stiniog, gwelwyd Llyn Stwlan eto yn chwarae ei ran fel yn nyddiau Dolwen, ond y tro yma a 'prif' ran. Byddai'n rhaid creu llyn newydd yng Nghwm Ystradau a'i lenwi, ac i'r un dŵr gael ei bwmpio i lawr o'r mynydd ac i fyny yn ei ôl wrth weithio y twrbein. Campwaith yn wir, a mae'r darlithydd yn rhestru'r hanes yn llawn.
Yn y broses o greu Llyn Ystradau aeth Tŷ Newydd, yr Aelgoch a Buarth Melyn yn aberth. Roedd y cynllun hwn yn ddigon mawr i ofyn i neb llai na'r Frenhines ddod i'w agor ym mis Awst 1963 ond erbyn dechrau'r 1980au roedd Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog y CEGB a fu'n gyfrifol am holl bwerdai Prydain i ddirwyn i ben pan y penderfynwyd preifateiddio'r diwydiant trydan, ac ers hynny mae llawer o newid dwylo wedi bod. Y perchennog diwedda ydi Mitsui o Siapan.
Roedd cynlluniau trydan Stiniog wedi aros yn rhy hir cyn cael eu casglu at ei gilydd a'u cyhoeddi. Dyma wnaeth Y Fainc eleni ac mae Vivian Parry Williams i'w longyfarch am drylwyredd y gwaith, sydd wedi golygu chwilota yn ein hen bapurau newydd fel Baner ac Amsera Cymru; Yr Herald Gymraeg; y Rhedegydd; Welsh Farmers Gazette; Y Genedl ayyb.
Llywydd y cyfarfod oedd Gwilym Price, a thalwyd diolchiadau dilys gan Emrys Evans.
Mae'r ddarlith ar werth yn y siopau am £2.50 neu trwy'r post am £3.00. Cysyllter â Pegi Lloyd-Williams 01766 830653.