BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
'Recriwts' y Royal OakleyAtgofion y Seindorf
Medi 2005
Hanner cyntaf erthygl newydd gan Glyn Parry am ei atgofion personol a hanes Band y Royal Oakley.
Diddorol oedd gweld llun recriwts y Band yn rhifyn Gorffennaf. Daw ag atgofion lu i mi. Tynnwyd y llun ychydig cyn diwedd y rhyfel. Yr oeddwn wedi cael fy 'ngalw i fyny' i ymuno â'r Rifle Brigade yn eu pencadlys yn Winchester, ac i fynd y diwrnod canlynol. Euthum a'm Comet yn ôl i Mr Dafydd Morgan. "Tyrd efo fi a Wil Solo Horn i ti gael tynnu dy lun efo'r ricriwts. Chei di ddim cyfle eto".

Yn ôl y llun, rwy'n cael fy adnabod fel "perthynas i Harry Garn". Brawd fy mam oedd Harry ac, i mi, yn gymeriad hoffus, yn ddarllenwr, yn fethodus i'r carn; yn ddiddorol a chanddo ddychymyg byw. Efallai bod dipyn bach o "Walter Mitty" ynddo hefyd!

Ond mor wahanol i mi.

Idwal Jones, Llanrwst (Pencader bryd hynny) yn pregethu ar "Cofiwch wraig Lot". Dywedodd mewn geiriau tebyg mai hen "wlanan" oedd hi yn cael ei hadnabod wrth enw ei gŵr. Doedd ganddi ddim enw ei hun. Ond cofiwch, i gysuro y chwiorydd yn y gynulleidfa, rwy'n cofio ambell i hen "gadach" o ddyn yn cael ei adnabod wrth enw ei wraig hefyd!

Ac i lawer, "Gŵr Mary" ydwyf i; ond beth am y Band?

Ymunais a'r Band (B fawr cofiwch) ddiwedd haf 1938. Dim cyfarwyddyd. Cornet yn fy llaw. Chwythiad i gael rhyw fath o nodyn ohono. Darn o bapur gyda'r scales arno, yn natural, sharps a fflats a'r fingering wedi ei nodi 1, 2, 3. "Dysga rheina".

Ac i ffwrdd â fi i wneud fy ngwaith cartref. Cerdded trwy goed Cwmbowydd i'r Manod. Y cês bach du a'r corn yn fy llaw, yn goblyn o jarff, a chyn falched â Jingo!

Ar ôl cael crap go lew, cael ambell i ddarn i ymarfer fy nawn. "The bluebells of Scotland" oedd un ohonynt.

Mynd i'r cwt, y Bandrŵm, a gweld llythyr yn rhoi'r hawl i ddefnyddio'r gair Royal. Hwnnw wedi ei fframio a'i osod ar y pared ar y chwith. Mawreddog!

Cael fy rhoi yng ngofal yr annwyl Bob Roberts gyda'r second cornets. Dyna i chi ŵr bonheddig cwrtais a diymhongar. Cefais drafferth cyfri'r pauses a phryd i ail gychwyn. Gyda'r afterbeats hefyd. Ond Bob yn ei ffordd hamddenol a thawel yn fy rhoi ar ben ffordd. Ymhen amser cael dyrchafiad at Alec Llan i chwarae Solo Cornet a cholli cwmni Bob.

Galwyd Bob i'r Llynges, heb fedru nofio'r un strôc medda fo. Bu drwy'r Battle of Java Sea ddiwedd 1941 pan suddwyd y Prince of Wales a'r Repulse gan y Japaneaid ond fe'i harbedwyd. Coffa da amdano.

Dyma enwau rhai o hogia'r Band, fel y cofiaf, ddechrau'r rhyfel.

Yr arweinydd William Williams (Wil bach Band) a'i fab hynaf Alec Llan, Robin Gwynant, Bob Roberts, Herbert Roberts, Steven Griffiths, Wil Edwards, Johnnie Rhiw (Shein), Tom Owen Llan, Dafydd, Bob a Huw Morgan, Gwilym Brynmor, Huw Dic, Dic Efflat, Eryl Jones a minnau.

Ac, wrth gwrs, heb anghofio'r drymar, pan oedd angen, Tom Hughes y Comiwnydd mawr o'r Llan. Bu Tom yn gweithio yn mhyllau glo'r Maerdy (Moscow Fach) a'r creithiau gleision i'w gweld ar ei dalcen a'i drwyn. Yno, mae'n debyg, y bu'n ymarfer ei ddawn!

Ymhellach ymlaen a phethau yn galed a thenau arnom, deuai y brodyr brwdfrydig o Benrhyndeudraeth atom i rhoi hwb i ni sef Albert a Handel.

Cael hwyl a'n dwrdio hefyd tra'n ymarfer. Ambell i ddarn yn mynd ffwl pelt ac yn gorffen yn sydyn a dramatig ac ambell i un diniwed fel fi, yn difetha'r cwbl drwy roi nodyn cras ac unig ychwanegol ar y diwedd! Dro arall y Band yn llusgo ac yn 'slyrio'. "Da chi hogia bach, trïwch symud efo'ch gilydd. Mae gennych chi glustiau!" Wedyn plygu a churo a chrafu coes ei stand a gweiddi "Band Penmachno, Band Penmachno". Beth bynnag oedd hynny yn ei olygu.

Gan Wil bach Band oedd y cornet awdurdodol ac i'r dim i'r marches a'r darnau forte cyflym, credaf iddo gael ei alw weithiau gan fandiau mawr o Loegr i'w cynorthwyo. Ond gan Alec bach oedd y tone hyfryd a swynol. Alec oedd meistr y cadenza.

Cofiaf, un gyda'r nos glos, ymarfer yn y Band Stand yn y Parc. Ambell dro mynd allan i'r stryd ac aros yma ac acw. I beth, gofynnwch? Y Band ddi-grant yn gorfod mynd i gardota.

Chwarae y tu allan i gapel Tabernacl. Nid wy'n cofio beth oedd yr achlysur: i gymanfa neu i gynhebrwng, tybed? Emynau y rhan fwyaf ond dechrau a diweddu gyda'r Deep Harmony. A thro arall o flaen yr Highgate yn Nhrawsfynydd: eto, at ba achos, nid wyf yn cofio.

Ac yn gweu drwy'r cwbl oedd y Cymanfaoedd, a dawnsfeydd yn yr Hall a'r parêds.

Cofiaf, y tro cyntaf i mi, Gymanfa Ysgolion Sul y Methodistiaid ddechrau Mai. 'Roeddwn yn rhy fach i gael iwnifform ond cefais gap pig lliwgar y Band. Efallai bod gennyf ben mawr yr adeg honno hefyd! Onid oedd gennyf reswm digonol! Aelod o'r Band!

Cerdded heibio Capel Gwylfa am y Blaenau, y genethod yn eu hetiau gwellt a'u ffrogiau newydd. Yr hogiau, fel finnau, mewn siwtiau a throwsusau bach. Pob un yn disgwyl am y lori addurnedig. Rhedeg i fyny ag i lawr o flaen y capel ag o amgylch y goeden pysl mwnci.

Ond, yma, goddefwch i mi air personol. Gofid calon i mi hyd heddiw yw syllu ar yr hen gapel hardd yn ei gystudd hir. Y capel lle y priodwyd ni'n dau dros bum deg a phump o flynyddoedd yn ôl. Criw creulon cas yr hen Harry wedi ei werthu a'i droi yn lle i drwsio ceir.

Wedyn, ninnau'r Annibynwyr ddiwedd y mis, strydoedd yr hen dref annwyl yn llawn o wylwyr, ar hyd y pafinoedd ac ar bennau'r tai'n edrych ac edmygu yr orymdaith liwgar, y baneri a'r Band.

Daeth y rhyfel, ond cewch fwy am hynny y tro nesaf.

Llongyfarchiadau i'r Band, yr arweinydd, yr hogia a'r genod (erbyn hyn). Pob un o'r rhain, beth bynnag, yn feistr ar ei offeryn. Codaf fy ngwydr. Y Band!

Fy ngofid mwyaf yw na fuaswn wedi medru bod yn fwy cefnogol i'w weithgareddau ar hyd y blynyddoedd. Mawr ddiolch i'r rhai sydd yn dal i wneud hynny. Ond hen gadach Gwamal, di-hwb a di-feind fûm i erioed.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy