HEFIN WILLIAMS
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Cymdeithas Enweiriol y Cambrian wedi colli sawl aelod yn ardal y Llan. Collwyd Gwilym Williams, Pant Llwyd, yna, y Meddyg D. Maxwell, wedyn, WJ Williams, ac yn niwedd mis Mawrth eleni, colli Hefin Williams, Onfa, Heol yr Orsaf.
Pob un ohonynt wedi bod yn aelodau o'r Cambrian am flynyddoedd lawer, ac nid yn aelodau yn unig, ond yn rhai a fu'n amlwg yng ngweithgareddau'r Gymdeithas, gan gyfrannu yn helaeth o'u hamser a'u dawn er ei mwyn.
Fel y lleill, chwith iawn fydd colli cyfeillgarwch a chyfraniad Hefin yn y cyfarfodydd, ac ar lan y dŵr, boed lyn neu afon.
Bu Hefin yn dal rhai o swyddi allweddol y Cambrian. Bu yn Ysgrifennydd y Gymdeithas am saith mlynedd rhwng y blynyddoedd 1968 hyd 1975, gan ddilyn Robert T. Jones (Bob Tom) yn y swydd.
Yna, dros y blynyddoedd cyn ac wedi dathlu Canmlwyddiant y Cambrian yn 1985, bu'n Is-Gadeirydd a Chadeirydd. Am gyfnod maith, bu'n aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas, yn gofalu am fuddiannau'r Cambrian.
Bu hefyd yn aelod selog, rai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn, o'r dosbarth cawio plu pysgota a drefnodd y Gymdeithas ac a oedd yn cael ei gynnal yn Ysgol y Moelwyn.
Fel y gwelir o'r ychydig sylwadau hyn bu i Hefin Williams ran ganolog a gweithgar yn hynt a helynt Cymdeithas y Cambrian dros y blynyddoedd a hyn yn mynegi'n eglur cymaint oedd ei ddiddordeb ym myd yr enwair. Chwith iawn fydd colli ei gwmnïaeth, ei gyfeillgarwch a'i gwmpeini wrth rai o'n llynnoedd ac i lawr tua Phant Dwr Oer ar Afon Glaslyn. Collwyd gweithiwr o'n plith.
Estynnwn ein cydymdeimlad cywir â Mrs Enid Williams, Sioned a Llion, ei chwaer Gwyneth, a'r teulu oll yn eu profedigaeth a'u colled.
MIS MAl
'Mai a gyfyd y galon',
- meddai hen ddywediad Cymraeg, a oedd yn sicr o fod yn wir rai canrifoedd yn ôl, pan fathwyd ef gyntaf. Ond mae'n dal yn wir heddiw, hefyd, yn y byd cyfoes.
Lluniodd y ddau Brifardd, Twm Morus a Meirion MacIntyre, gerdd tair llinell, ar fesur newydd y maent yn ei alw'n 'llethren'.
'Clamai, pysgotwyr yn clymu,
Y cae'n haul, y gwcw'n hy,
Anodd peidio gwenu.'
A dyna'r un teimlad yn cael ei fynegi am fis Mai yn yr hen, hen, ddywediad, na ŵyr neb beth yw ei oed na phwy a'i lluniodd gyntaf, a'r pennill tair llinell newydd, diweddaraf, gan y ddau Brifardd. 'A gyfyd y galon', meddai un, ac 'Anodd peidio gwenu,' medd y llall, wrth groesawu mis Mai unwaith eto.
'Pe rhoid im ddewis, rywbryd,
Ofuned fawr gan fywyd,
Ni fynnwn fwy na gweled Mai
Yn dod â'i lifrai hyfryd.'
meddai J.W. Jones mewn telyneg.
Mae'r beirdd yn bur gytun fod rhywbeth arbennig iawn ynglŷn â mis Mai - fod rhyw gyffro ynglŷn ag ef, a bod pobl gwahanol genhedloedd ar hyd yr oesoedd wedi cynnal gwyliau a gwleddoedd, defodau a digwyddiadau, i ddangos eu llawenydd o fedru croesawu Mai unwaith yn rhagor. Y gaeaf yn gollwng ei afael ar dir a dyn, a rhyw fwynder yn dod yn ei le.
Ac onid yw'r pysgotwr mor gywir ei groeso i Fai ag undyn arall?
Onid hwn yw'r mis y mae'r Cogyn, boed hwnnw y Cogyn Coch neu'r Cogyn Brown yn ein hardal, yn dod i'w ogoniant, fel y crybwyllwyd y mis diwethaf?
Dyna yw prif bryf y mis i'r pysgotwr pluen, er fod yna bryfaid eraill fel Brych y Gro, y Pry Bach Du a Wil Piser Hir (fel y gelwir yr 'Hawthorn Fly' ym Mhenrhyn Llŷn), yn rhyw fath o gystadlu â'r Cogyn.
Dros y blynyddoedd, mae sawl cawiwr plu pysgota wedi ceisio llunio pluen i awgrymu neu ddynwared y Cogyn, ac mae'r nifer o wahanol batrymau sydd ar gael yn dystion mai nid gwaith hawdd yw hyn.
Wrth edrych drwy lyfr y Gwyddel I.R. Harris - An Angler's Entomology - y patrwm y mae ef yn ei awgrymu i'w bysgota pan mae'r Cogyn Coch ar y dŵr yw hwn:
Bach Maint 12
Cynffon - yr un fath â'r traed
Corff - blewyn twrch daear a blewyn morlo neu wlân coch wedi eu cymysgu. Rhoi cylchau o weiar aur fain am y corff.
Traed - ceiliog llwyd-las tywyll. Rhoi chwech neu saith tro o'r heislen. Yna mae'r awdur yn dweud am dorri 'V' yn y traed odditani.
Pluen sych yw hon, ac mae'r defnydd o flewyn twrch daear yn ddiddorol. Ychydig yw'r plu y gwn i amdanynt yn ardal Ffestiniog y defnyddir blewyn y twrch daear yn eu cyrff.
Rhaid fydd rhoi cynnig ar y patrwm yma i weld sut y bydd yn cymharu hefo'n patrymau ni o'r Cogyn Coch. Hwyl ichi arni.
CYSTADLEUAETH BYSGOTA
Eleni eto mae Cymdeithas Enweiriol y Cambrian yn trefnu nifer o gystadlaethau pysgota yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd y gyntaf yn cael ei chynnal ar 15 Mai ar Lyn Ffridd, neu Lyn Ffridd y Bwlch, a rhoi ei enw cywir iddo.
Cystadleuaeth ar gyfer yr ieuenctid yw hon, yn dechrau am 10 o'r gloch. Y tâl am gymryd rhan fydd £4.