Dair wythnos yn ddiweddarach roedd y ddau ohonom wedi talu blaendal ac wedi prynu ticedi awyren i Nairobi yn Kenya. Roeddem am ddringo mynydd Kilimanjaro yn Tanzania, sef y mynydd uchaf yn y byd Y gellir cerdded i'w gopa.
Nid oeddwn erioed wedi gwneud dim byd tebyg o'r blaen, ar wahân i ddringo'r mynyddoedd ar y fferm yn Nolwyddelan pan yn blentyn.
Roedd llawer i'w ddysgu ar gyfer y sialens hon, yn ogystal a chael dillad ac offer priodol oedd yn gostus iawn.
Hefyd roedd yn rhaid ymarfer y corff a dysgu sut i osgoi salwch ar y mynydd.
Ar ôl misoedd o baratoi, camodd Tim a minnau oddi ar yr awyren yn Nairobi a chychwyn dros y ffin i Tanzania, yn edrych ymlaen at y daith wyth diwrnod i gopa Kilimanjaro.
Roedd angen cymaint a hynny o ddyddiau i ddringo'r mynydd er mwyn rhoi amser i'r corff ddod i arfer yn raddol efo'r uchder.
Mae sawl llwybr i fyny'r mynydd ac mae'n debyg bod ein carfan ni wedi dewis yr anoddaf oherwydd dim ond tua 20% oedd yn llwyddo ar hwnnw.
Gyda ni yn y tîm o 10 roedd 5 o'r Iseldiroedd, 2 o Awstralia a Saesnes o Lundain.
A 42 o bortars ac arweinwyr i ofalu amdanom! Roedd rhain yn bobl anhygoel, yn rhedeg i fyny'r mynydd gan gario ein bagiau ar eu pennau ac yn mynd o'n blaenau i baratoi'r 'camp' nesaf o hyd.
Fel yr oeddem yn dringo roedd yr aer yn teneuo ac roedd anadlu'n mynd yn anoddach o hyd.
Byddai'r portars yn ein deffro yn y bore gyda phaned o de, yna llond desgl o ddŵr i ymolchi.
I frecwast fe gaem uwd, bacwn ac wy a dewis o ambell beth arall.
Yna byddem yn cychwyn dringo eto a chyn pen yr awr byddai'r cymorthyddion yn ein pasio dan redeg!
Yn ystod y dydd roedd y tymheredd rywle rhwng 15 a 25 gradd selsiws ond yn ystod y nos gallai syrthio cymaint a 10 gradd yn is na'r rhewbwynt.
Erbyn hyn roedd pawb yn dioddef cur pen a'r salwch sy'n dod o brinder ocsigen. Ond cario ymlaen oedd raid, a hynny am 5 i 8 awr y dydd.
Ar yr Arrow Glazier (4,800m), roedd y tymheredd yn gyfnewidiol iawn.
Un funud roedd y mynyddoedd yn glir a'r haul yn gynnes ond ymhen yr awr roedd 3 modfedd o eira wedi syrthio a phobman yn rhewi.
Mae'r gwahanol lwybrau i fyny Kilimanjaro yn cyfarfod yng nghamp Barafu ac erbyn i ni gyrraedd roedd tua 200 0 bobl yn barod am y daith i'r copa ei hun.
Drannoeth, roedd yr hin yn braf ond yn gynnar yn y prynhawn daeth cwmwl enfawr i fyny'r dyffryn ac o fewn 20
munud roeddem wedi cael ein dal mewn storm o eira trwm.
Ail gychwyn wedyn tua hanner nos a dringo llwybr serth drwy'r
tywyllwch, a hynny am 7 awr gyfan.
Golygfa gyffredin oedd gweld aelodau o dimau eraill yn cael eu cario i lawr yn ôl oherwydd 'altitude sickness', rhai ohonynt yn chwydu gwaed ac felly mewn cyflwr pur ddifrifol.
Er gwaetha'r cur pen a'r salwch, teimlad gwych a bythgofiadwy oedd cyrraedd y copa a gwybod fy mod nid yn unig wedi dringo 19,3300 droedfeddi a choncro mynydd uchaf Affrica ond fy mod hefyd wedi casglu £1,500 tuag at gronfa 'Macmillan Cancer Support'.
Gan fy mod wedi cyfarfod holl gostau'r daith o'm poced fy hun, yna bydd pob ceiniog a gasglwyd yn mynd tuag at yr achos teilwng yma.
Rwyf rŵan yn paratoi ar gyfer Marathon Llundain ym mis Ebrill a byddaf eto yn gobeithio cael fy noddi tuag at yr un achos da.
Eryl Jones