| Hefyd cafwyd dau dâp fidio, un map -Tourist Map of Wales 1905, gyda 21 o fusnesau'r ardal yn hysbysebu ynddo, ac un undod ewyllya. Fel y dywedir mae lluniau am bob math o bynciau wedi dod i'r golwg, ac wedi cael eu cofnodi au dychwelyd yn ôl. Diolch am eu benthyg. Mae rhai lluniau yn ddigon cyffredin, ond yn dal mor ddiddorol a derbyniol. Mae amryw o luniau i mi beth bynnag yn hollol newydd, a dim gwybodaeth amdanynt. Er mwyn cadw'r cyhoedd up to date rydym yn gobeithio ymddangos yn fisol yn Llafar Bro, gan ddangos llun neu ddau neu rhyw ddogfen ddiddorol, a chael ymateb ganddoch gyda mwy o wybodaeth am yr eitemau. Llun uchod: Llun diddorol o ddau o fechgyn ifanc gyda cheffyl a throl, a dau "churn" llefrith arni. Mae'n debyg iawn fod mynwent ar y dde i'r bachgen sydd yn tywys y ceffyl. Mae yna hefyd lun o Resiad o fythynnod yn Llafar Bro rhifyn mis Mawrth.Mae modd dod â lluniau i'w sganio i Swyddfa Cyfle Stiniog (yr hen Co-op Four Crosses) bob Dydd Mawrth rhwng 10 a 12. Os na fedrwch alw gydach lluniau am unrhyw reswm cysylltwch â Maldwyn Williams 831362.
 |