| Bu hefyd yn achos tristwch mawr i sawl teulu'r ardal hon, wrth weld cofebion eu hanwyliaid wedi eu malurio.
Onid yw hyn yn brawf ychwanegol o'r diffyg parch sy'n bodoli ymysg ambell garfan o'n cymdeithas?
Nid yn unig yn amharch tuag at yr ymadawedig, ond yn achos poendod o'r mwya' i deuluoedd sy'n galaru hefyd.
Mae'n anodd credu sut y gall unrhyw un ostwng i'r fath lefel.
Yr unig obaith yw y bydd rhywun a gwybodaeth am y sawl sy'n gyfrifol am yr anfadwaith hwn, ac yn trosglwyddo enwau i'r heddlu lleol.
Gobeithio'n wir y gwelir yr euog
rai o flaen eu gwell yn y llys yn fuan iawn. VPW
 |