BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Branwen ym Mecsico!
17 Hydref 2003
Mae Branwen Ellis, Dolau Las, Tanygrisiau yn gwirfoddoli yng Nghartref Plant Canica yn Oaxaca, Mecsico ers Medi 2002.
0 dan y cynllun mae staff Canica yn gweithio ar y strydoedd a mewn marchnad enfawr ar gyrion y dref, y farchnad hon sy'n gartref i nifer o blant Oaxaca.

Mae'r addysgwyr yn datblygu perthynas gyda'r plant ac yn raddol, eu hannog i fynychu Canolfan Dydd Canica.

Ar hyn o bryd mae 250 yn mynychu'r ganolfan. Yno maent yn derbyn dau bryd o fwyd y dydd, addysg syml a chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Ar unrhyw amser dim ond lle i fyw i ugain o'r plant mwyaf anghenus sydd yng Nghartref Canica, lle mae Branwen yn gwirfoddoli.

Roedd rhai o ffrindiau Branwen yn awyddus i gynnig cymorth a phan ofynnwyd iddi beth oedd eu anghenion mwyaf, fe nododd y canlynol:

Esgidiau - gan bod y rhan fwyaf o'r plant yn gwisgo esgidiau rhy fach ar eu cyfer neu wedi torri.
Adnoddau Addysgol - mae angen cyfeirlyfrau i helpu gyda'u gwaith cartref, ar hyn o bryd nid oes ganddynt un o unrhyw fath , hefyd llyfrau darllen, gan mai eu cyfnod yn y cartref fydd y cyfle gorau a gaiff y plant i ddysgu darllen yn iawn.

Offerynnau Cerdd - Fel sydd i'w ddisgwyl, mae gan y rhan fwyaf o'r plant broblemau ymddygiad o ryw fath oherwydd y bywyd anodd maent wedi ei gael. Mae rhai o dan straen ofnadwy, rhai yn ymosodol, ac eraill yn hynod o swil.

Cred y staff yn y cartref y byddai gweithdai cerdd yn llesol i'w helpu i ymlacio ac hefyd yn gyfle i ddatblygu eu creadigrwydd, rhywbeth nad ydynt wedi cael cyfle i'w brofi.

Taith i Lan y Môr - Er bod y manteision o fod yn y cartref yn amlwg, mae'n anodd i'r plant fod oddi cartref ac maent yn poeni am y sefyllfa adref. Mae hefyd yn newid mawr yn eu bywyd dyddiol. Dychmygwch blentyn a arferai ennill arian drwy fwyta tân i ddiddanu ar y strydoedd, sydd nawr yn ceisio'i orau glas i ymdopi gyda gwaith ysgol. Am y rheswm yma, a llawer mwy, y dymuniad yw trefnu taith i'r arfordir ar gyfer y plant fel y caent gyfle i weld y môr am y tro cyntaf ac i gael adnabod ychydig bach ar eu talaith.

Ar ddiwrnod o haul braf yn ô1 ym Mis Mawrth, cerddodd nifer o deulu a ffrindiau Branwen ar daith noddedig o Danygrisiau i Faentwrog. Casglwyd cyfanswm o £3271.00, swm a drosglwyddwyd i'r cartref yn Oaxaca, a daeth â llawer o foddhad i'r plant, yn eu dillad ac esgidiau newydd, yn eu gweithdai cerddorol, yn eu llyfrgell fechan, ac yn arbennig ar eu taith i'r arfordir. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Dyma ddyfyniadau o E-bost Branwen yn dilyn y trip i lan y môr.
"...Dwi'n falch o ddweud fod y trip wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Wedi cyrraedd adre'n ddiogel a hapus dros ben. Mi ddaru'r plant fwynhau drwyddi draw. Roedd eu hymateb wrth weld y môr a'r traeth (am y tro cyntaf yn eu bywydau) yn fendigedig. Roedd un ferch fach yn neidio allan o'i chroen gyda brwdfrydedd ac yn gweiddi "Edrychwch ... edrychwch ar y môr... a'r tywod.. a'r cranc."

Gofynnodd i mi ddiolch i ffrindiau adref oedd wedi gwneud y trip yn bosib.
... merch fach arall yn gorwedd ar ei chefn yn y dwr ac yn dweud drosodd a throsodd "rico, rico ... cŵl, cwlisimo..." mewn llais bach ciwt.

Yna roedd un o'r hogiau methu deall pam nad oedd yn gweld pen draw'r môr, ac yn gofyn a oedd yn mynd tu hwnt i'r gorwel, ac eisiau cadarnhad bob pum munud. "Be mae'r môr yn mynd 'mlaen a 'mlaen a 'mlaen?"

Er i mi ffonio dair gwaith, a hynny ddeuddydd cyn y trip, i gadarnhau ein hystafelloedd yn yr hostel, erbyn cyrraedd roedd y landladywedi gorlenwi. Pan ddywedodd "Mae'n ddrwg gen i ond bydd raid i chi aros yn hostel fy mab am yr un pris", fedrwn i ddim coelio fy lwc gan fy mod yn gwybod o'm gwaith ymchwil fod hostel y mab yn llawer neisiach a drytach ac yn edrych allan dros y môr.

Mi gefais i yr un ystafell oedd ar ôl i mi fy hun, a hyn oherwydd bod iguanas yn dod i mewn iddi yn ystod y nos. Blwyddyn yn ôl mi fuasai hyn wedi achosi panic llwyr, ond ddim erbyn hyn. Clymais liain gwely i'r headboard i orchuddio fy mhen a chysgais fel babi drwy'r nos.

Roedd y môr yn hyfryd a chynnes ac yn llonydd y rhan fwyaf o'r amser. Doeddwn i ddim yn gadael y plant allan o'm golwg am eiliad, ac oherwydd fy mod wedi sefyll fel soldiwr am oriau llwyddais losgi unochr o'm trwyn. Mae'n dal yn goch...

Diolch i chi i gyd am eich holl gymorth i roi i'r plant yma un o brofiadau gorau eu bywydau."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy