Sawl blwyddyn yn ôl soniodd un gŵr o Stiniog wrthyf - ei deulu yn hanu o sir Fôn am blant pobl Môn, a ddenwyd i'r dref gan y gwaith yn y chwareli, yn mynd o gwmpas ar y dydd hwn i hel crempog neu o leiaf i hel y deunydd at wneud crempog.
Wn i ddim pa mor gyffredin fyddai'r arfer yn y dref ond yn sicr yn sir Gaernarfon a sir Fôn byddai plant yn heidio o gwmpas sawl tref a phentref yn canu am grempog ar Ddydd Mawrth Ynyd.
Gwyddys fod hwn yn arferiad ledled Cymru ar un adeg. Ers talwm, ganrif a mwy yn ôl roedd hwn yn arfer cyffredin ymysg plant y tlodion. Fel hel calennig byddai cryn wrthwynebiad yn yr ardaloedd trefol a chan bobl y capel i'r fath fegera. Parhaodd y traddodiad ac ambell un yn mynd ati yn unswydd i wneud crempog ar gyfer y plant ddeuai i hel, yn union fel y byddent hefyd yn mynd ati i wneud cyflaith ar nos Galan, i'w roi i'r plant fel calennig y bore canlynol.
Roedd hwn yn hen draddodiad wrth gwrs ond pylodd y diddordeb yn ystod y 19fed ganrif. Sonnir fel y byddai trigolion yr wyrcws yn cael eu hel allan ar ddydd Calan a dydd Mawrth Crempog i fynd i hel.
Caent lond eu boliau yn ôl y sôn - ac mae crempog yn llenwi bol does dim dwywaith am hynny! Roedd boliau llawn yn arbed arian i reolwyr yr wyrcws yn ogystal!
Yr oedd yr Eglwys yn y Canol Oesau yn cadw ympryd deugain niwrnod cyn y Pasg, sef Y Grawys, i goffáu ympryd a themtiad Crist yn y diffeithwch. Roedd hyn hefyd yn paratoi'r unigolyn yn gorfforol ac ysbrydol ar gyfer dathliadau gogoneddus y Pasg. Ni chynhwysid y Suliau cyn y Pasg yn yr ympryd ac felly dechreuai'r ymprydio ar ddydd Mercher - Dydd Mercher Lludw pan roddid croes o ludw ar dalcen y ffyddloniaid yn ystod gwasanaeth arbennig yn yr Eglwys.
Roedd y tridiau cyn Dydd Mercher Lludw, sef yr Ynyd, yn ddyddiau o ddathlu. Pwy sydd heb glywed am ddathliadau lliwgar y Mardi Gras mewn dinasoedd yn y gwledydd Catholig gan amlaf, ac mae'r 'gras' neu'r saim yn dal yn rhan o'n dathliadau ni yng Nghymru - er hwyrach fod y lard yn gyndyn o ymddangos heddiw yn ein dyddiau iach ni!
Yn ystod y tridiau hyn bwyteid popeth fyddai ar ôl ac oedd yn waharddedig yn ystod y Grawys pethau fel wyau, lard neu saim yn cynnwys menyn, llefrith ac wrth gwrs cigoedd. Bwyteid cig weithiau gyda'r grempog yn y dyddiau hynny. Yn Lloegr, gelwid dydd Llun yr Ynyd yn Collop Monday - y dydd olaf i fwyta cig cyn Y Grawys.
Ceir cyfeiriadau at wneud crempog ar ffurf nifer o rigymau a dywediadau. Er enghraifft, Dydd Mawrth Ynyd / Crempog bob munud.
Ceir sawl cyfeiriad yng ngogledd Cymru at blant yn 'blawta a blonega', sef hel blawd a saim er mwyn gwneud crempog. Byddai criw o blant yn mynd o gwmpas tai yn y gymuned, yn union fel ag yr oeddynt yn ei wneud wrth hel calennig, cnocio ar y drws ac unwaith fo'r perchennog wedi agor y drws canent rigwm yn gofyn am grempog ac mae'r rhigymau hyn yn dal yn gyfarwydd megis hon:
Wraig y tŷ a'r teulu da
A welwch chi'n dda roi crempog?
A lwmp o fenyn melyn mawr
Fel 'raiff i lawr yn llithrig;
Os ydych chwi yn wraig led fwyn,
Rhowch arni lwyn o driog.
Os ydych chwi yn wraig led frwnt
Rhowch arni lwmp o fenyn;
Mae rhan i'r gath, a chlwt i'r ci bach
A' r badell yn grimpin grempog!
Llafarganwyd y rhigwm hwn i mi gan wraig o'r Manod a fagwyd yn ardal Aberdaron ar ddiwedd y 19eg ganrif ac arferai fynd o gwmpas yn canu hon ar ddydd Mawrth crempog yn yr ardal honno.
Fel y dirywiodd yr arfer cedwid y rhigymau ar dudalennau cylchgronau megis Cymru'r Plant ond dim sôn am sut y defnyddid hwy yn wreiddiol.
Newidiwyd beth arnynt i'w gwneud yn fwy deniadol a daethant yn rhan o draddodiad rhigymau plant Cymru. Ond, eu swydd wreiddiol oedd helpu'r plant i hel crempog; rhigymau cardota plant ar ddydd arbennig oeddynt. Cofnodwyd y rhigwm hwn yn 'Stiniog tua 1890:
Os gwelwch chi'n dda ga'i grempog,
Os nad oes menyn yn y tŷ
Ga'i lwyad fawr o driog.
Mae mam rhy dlawd i brynu blawd
A nhad rhy ddiog i weithio.
Sonia un awdur am blant sir Fôn yn cyrraedd adref yn hwyr yn y bore - ni ddylid hel crempog, na hel Calennig ar ôl hanner dydd wrth gwrs - a'u hwynebau'n drwch o saim a thriog hyd eu clustiau.
Heddiw mae gwneud crempog yn dal yn draddodiad ac wele yn y siopau lleol, - heb enwi'r un - ceir bargen, dau baced o gymysgfa i wneud crempog am bris un. Pwy fyddai'n meddwl am wneud crempog allan o baced? Tydan ni wedi mynd yn ddiog! Mae'r amser wedi newid ond mae'r grempog yr un mor flasus ...
Tecwyn Vaughan Jones