BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Glyn WiseDiolch Glyn!
Hydref 2006
Wedi'r rhifyn diwethaf roedd rhaid cyfrannu i ddiolch i un o ieuenctid y fro.
Fel darllenwraig ac ar ran holl ddarllenwyr Llafar Bro dymunaf longyfarch a diolch i Glyn Wise.

Dros y misoedd diwethaf rhoddodd Glyn bleser a hwyl i ni wylwyr Big Brother ond rhoddodd lawer mwy i Blaenau a'r Gymraeg. Braf gweld bachgen ifanc brwdfrydig yn llwyddo'n rhyfeddol ar raglen Saesneg a hynny yn ei ddull naturiol a hoffus.

O ganlyniad i ymddangosiad Glyn yn y tŷ gydag amryw o gystadleuwyr eraill mae'r fro wedi cael cryn sylw a ieuenctid y fro yn ymhyfrydu yn yr hyn a wnaeth Glyn.

Pwy all anghofio'r gwersi coginio, y dawnswyr Morris, y Brawd Mawr ei hun yn siarad Cymraeg, y carchar a'r cinio dydd Sul wedi ei gymysgu i gyd mewn gwydr!

Ond Glyn fe wnes ti wynebu'r her gyda gwên bob tro a hynny mor naturiol, yn amlwg yn un o hogia Blaenau.

Rhaid llongyfarch Glyn am yr hyn a wnaeth wrth i Brydain ei wylio a rhoi sylw i'n bro ac i'r Gymraeg. Mae'r ffaith ei fod wedi bod yn sgwrsio gydag Imogen yn ei famiaith wedi codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg i gynulleidfa llawer ehangach a dangos pa mor naturiol y gall dwyieithrwydd fod.

Do fe dyfodd y bachgen yn ddyn chwedl y gân, ond i'r miloedd fu'n gaeth i'r sgrîn am dri mis roedd yn bleser gweld wyneb cyfarwydd. Er na wnaeth ddod i'r brig Glyn ydi'r enillydd yn ein llygaid ni.

Llongyfarchiadau mawr i ti a phob dymuniad da i'r dyfodol. Un o hogia Blaenau yn llwyddo eto.

Elisabeth Jones

  • Tudalen Glyn Wise

  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy