| Un a fuasai'n cofio y bwrlwm cyntaf o'r gigs yn y Cwîns fysai taid y byd roc Cymraeg, Rhys Mwyn (a oedd hefyd yn bresennol yn y gig gwallgo). "Hefo'r Anhrefn doedd dim dwywaith ein bod yn cael yr ymateb a'r derbyniad gorau o flaen cynulleidfa naturiol Gymraegmewn cymunedau fel Blaenau, Port, Penllyn - h.y. tu allan i'r Byd Pop Cymraeg Steddfodol / Colegol / crachaidd; mewn ardaloedd mwy di-freintiedig, dosbarth gweithiol lle roedd y neges a'r arddull pync yn cysylltu yn uniongyrchol - angry music, tough town. "Noson fythgofiadwyi ni oedd gwneud benefit gig i'r chwarelwyr yn Queens Blaenau. Roeddan ni wedi chwarae yno sawl gwaith o'r blaen ond y noson honno efo cymysgedd o pync rocars a sgalis lleol a chwarelwyr a'u teuluoedd. Dwi 'rioed wedi gweld y cyflwyniad o'r llwyfan '**** Maggie Thatcher' yn mynd lawr cweit mor dda - roedd yn fraint i ni gael chwarae ac roedd pobl yn gwerthfawrogi ein bod wedi mynd yno i chwarae - amser caled iawn i bobl ac eto amser lle roedd cryfder a dewrder pobl hefyd yn rhoi gobaith i ni gyd." Yn agor y noson ar y 5ed o Chwefror oedd Llan Clan, grŵp ifanc a chyffrous sy'n dilyn steil gerddorol digon tebyg i'r Beatles. Yna roedd y band 'Bob' o Ben Llŷn. Mi oedd hwn yn berfformiad o safon uchel tu hwnt, gydag egni a bwrlwm gwyllt. Tsg oedd y nesaf - mae'r band yma hefo dilyniant enfawr yn y Blaena, yn ddigon tebyg i'r band nesaf Hecate. Bu perfformiad y grŵp nesaf, sef Golau Ola, o Benrhyndeudraeth yn wych; mae cerddorion y band yma gyda'r gallu i chwarae eu hofferynnau yn gampus. I orffen y nos roedd y band enwog a wrthododd arwyddo album deal i'r cwmni recordio mawr EMI a dewis mynd am label bach o Abertawe, y rhain oedd yr enwog anfarwol The Caves. Os oes band a all ddangos esiampl o sut i neud perfformiad roc a rôl (a chwarae set taclus a thyn) y band yma ydynt. Gellir gweld gwybodaeth am y band ar www.thecaves.co.uk. Hoffai'r Gwallgofiaid ddiolch i bawb a gefnogodd y noson a gobeithio y gwelwn llawer mwy o bobl o bob math ac oed yn y gigs gwallgo yn y dyfodol.
 |