BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Trefnwyd arddangosfa a diwrnod arbennig gan Asiantaeth yr Amgylchedd i roi cyngor i bysgotwyr am yr amgylched yn ddiweddar (Llun: Maldwyn Williams)Sgotwrs Stiniog
Mehefin 2003
Anfoddhaol iawn fu mis Mai eleni o safbwynt pysgota; yn wlyb yn aml a'r tymheredd yn is na'r hyn ydyw yn gyffredin.
'Mis Mai oer a wna'n ddinag
'Sgubor lawn a mynwent wâg.'

Dyna ddywed un o hen ddiarhebion ein gwlad. Gobeithio, pa'r un bynnag fod gwell tywydd i ddod am weddill y tymor.


Llongyfarchiadau i Dafydd Williams, Gellilydan, ar ddal brithyll tri phwys a thri-chwarter yn Llyn Dubach y Bont ar y 18fed o Ebrill. Yn ôl y llun a welais roedd yn bysgodyn graenus iawn.

Fel y cefais i yr hanes roedd Dafydd wedi bod yn pysgota am beth amser ac heb weld fawr ddim. Yr oedd ar roi'r gorau iddi pan gymerwyd ei bluen, ar y tafliad olaf megis, gan y llarp yma o bysgodyn.

A'r bluen a dwyllodd yr hen warior yma? Pluen o'r enw 'Loch Ordie'.Pluen o'r Alban yw hi, ac wedi'i dyfeisio gan Ddug Atholl. Yn ôl y sôn mae yn lladdwr ar bysgod yn rhan uchaf gogledd yr Alban; mae wedi gweithio'n dda, hefyd, yn y llynnoedd sydd yn Ynysoedd Shetland ac Ynysoedd Erch, sef yr 'Orkneys'.

'Pluen anghyffredin a hynod', dyna fel y'i disgrifir gan un awdur, ac mae ei chawiad yn wahanol i blu eraill yr ydym yn gyfarwydd â hwy.

Mae mwy nag un fersiwn ohoni hi fel rwy'n deall, sef yr un cyffredin (y patrwm gwreiddiol, mae'n debyg) a'r un a elwir yn fersiwn 'Loch Harray'.

Does gan y bluen 'Loch Ordie' ddim cynffon, na chorff, na chwaith adain. Yr hyn ydi hi yw traed o lygad y bach hyd at lle mae coes y bach yn dechrau cymryd tro.Dyma batrwm a godais o un llyfr sydd gennyf:

Bach - Maint 10-12.
Eda gawio - Du.
Traed - Iar neu geiliog brown-goch, a'u rhoi am goes y bach yn aml ac yn drwchus gan ddefnyddio mwy nag un heislen i hynny. Yna traed gwyn wrth lygad y bach.

Mae yr hyn a elwir yn fersiwn 'Loch Harray' rywfaint yn wahanol. Yn ôl John Veniard defnyddir hyd at naw neu ddeg heislen oddi ar iar i'w rhoi am goes y bach. Dechreuir hefo heislen ddu lle mae'r bach yn dechrau cymryd tro; yna un goch-frown dywyll; dilyn honno ag un goch-frown rywfaint yn oleuach; wedyn un lliw sinsir; yna un lliw mel; a gorffen hefo heislen wen wrth lygad y bach.

Oes fersiynau eraill o'r Bluen 'Loch Ordie', tybed?Er mai llyn bychan yw Dubach y Bont mae'r pysgod yn gwneud yn hynod o dda ynddo. Maent yn raenus, ac yn tyfu yn bysgod gwerth gafael ynddynt. Dros y blynyddoedd mae sawl pysgodyn o bwysau da wedi dod o Lun Dubach y Bont.

Er enghraifft, ar y 14eg o Fehefin 1958 daliodd Ken Daniels frithyll yn pwyso tri phwys a deng owns hefo Rhwyfwr Corff Paen. Flwyddyn yn ddiweddarach, ar y 12fed o Fehefin 1959, daliodd John Reynolds frithyll dau bwys a deng owns hefo pluen 'Blue Upright'. Mae sawl pysgodyn hyd at ddeubwys wedi eu dal o dro i dro gan wahanol rai.

A ninnau yn nhymor y 'cogyn' unwaith eto, hwyrach y byddai rhyw sylw neu ddau arno o ddiddordeb.

Mewn pwt o sgwrs a gefais â'r cyfaill Cecil Daniels yn nyddiau olaf mis Ebrill, dywedodd wrthyf ei fod wedi bod yn pysgota yn Llyn y Morwynion yn gynharach yn y mis, a'i fod yn credu iddo weld un neu ddau o'r coyn ar y dwr.

Gan na fedrodd gael yr un i'w law er mwyn bod yn sicr mai dyna a welodd, ei gwestiwn ydoedd, Ydi'r cogyn i'w weld mor gynnar â chanol mis Ebrill? Yr ateb yn syml yw, Ydi.

Mae dau fath gwahanol o gogyn i'w gweld ar ein llynnoedd ni yn ystod misoedd Ebrill a Mai, neu ar rai ohonynt, beth bynnag, a'r rheini yw y Cogyn Coch a'r Cogyn Brown (fe'i gelwir hefyd yn Gogyn Gwineu). Y Cogyn Coch yw y mwyaf niferus a chyffredin o'r ddau, ac mae hi'n mynd yn fis Mai arno ef yn dod i'r golwg.

Tydi'r Cogyn Brown ddim mor niferus, a gellir ei weld ef yn eithaf cynnar ym mis Ebrill.Gwn ei fod i'w weld yn Llyn y Morwynion, ac hefyd yn Llyn Conwy a Llyn y Manod. Fe'i gwelais yn Llyn y Manod mor gynnar a'r 6ed o Ebrill yn y flwyddyn 1946.Mae y ddau fath yma o gogyn yn bur debyg i'w gilydd o ran maint a lliw, y Cogyn Brown ryw ychydig yn fwy.

Y ffordd orau i wahaniaethu rhwng y ddau yw edrych ar y ddwy adain fach sydd ym môn y ddwy adain fawr. Mae adain fach y Cogyn Coch yn olau eu lliw ac i'w gweld yn o eglur yn erbyn y ddwy adain fawr, sy'n dywyllach eu lliw, tra bo adain fach y Cogyn Brown yr un lliw â'i adain fawr, ac felly nid yw'n hawdd eu gweld.

Yn ôl fel rwy'n deall dim ond yn gymharol ddiweddar y mae'r Cogyn Brown wedi cael enw cyffredin, sef yn niwedd y 1960au pan ddaeth llyfr John Goddard, 'Trout Flies of Still Waters' o'r wasg. Cyn hynny wrth ei enw gwyddonol yn unig yr oedd yn cael ei adnabod. Mae hwnnw yn un a thipyn o waith cael y tafod o'i gwmpas, ac o waith cofio arno - 'Leptophlebia marginata'.

I wneud corff y Cogyn Brown neu gorff ei nimff, fe dybiwn i y byddai blewyn cochddu cystal, os nad gwell, na'r un arall. Dyma batrwm pluen pan ddaw'r Cogyn Brown ar y dwr:

Bach - Maint 12.
Cynffon - 3-4 corn oddi ar war-coch-ceiliog tywyll.
Corff - Gwlan cochddu, a chylchau o weiar aur fain amdano. Peidio a gwneud y corff yn drwchus.
Traed - Gwar-coch-ceiliog tywyll.
Adain - Ceiliog Hwyad.

Beth am rai o lynnoedd eraill yr ardal - Barlwyd, Bowydd, Dubach a Chwmorthin, er enghraifft? Pa mor gynnar yn y tymor pysgota y gwelwyd y cogyn arnynt hwy neu o gwmpas eu glannau?

Sydd gan y Bonwr Caradog o Dan y Grisiau ryw wybodaeth ar y pwnc yma inni o Lyn Cwmorthin?

Pa mor agos yda ni fel sgotwrs, a holl sgotwrs y wlad hefyd o ran hynny, i'r adeg pryd y bydd yna rai yn tarfu ar ein pysgota ni, ac yn ein rhwystro ni rhag gwneud yr hyn yr ydym yn hoffi ei wneud?

Ar y radio ddiwedd Ebrill dywedwyd fod 'prawf' wedi'i gael fod pysgod yn dioddef ac yn teimlo poen pan maent yn cael eu bachu gennym wrth inni bysgota a'u bachu nhw.Ydi hyn yn golygu y bydd yna ymgyrchoedd, fel sydd wedi bod yn hanes hela llwynogod, yn ein herbyn?

Ydi hi'n debyg y bydd yn rhai inni ddioddef sen a sarhad, torri ar draws ein pysgota, ac y gallai pethau fynd yn hyll rhwng y ddwy ochr?

Darllenais amser go dda yn ôl am bysgotwr yn ardal Llangollen yn dweud ei brofiad ynglyn â'r tarfu a'r rhwystro a ddigwyddodd iddo ef.

Pysgota 'r Afon Ddyfrdwy yr oedd ac yn rhoi ei blu ar bwll arbennig ynddi. Daeth dynes i sefyll wrth ei ochr, ac yna dweud yn filain wrtho, Llofrudd!!!Yna anfonodd ei chi i mewn i'r pwll a difethau ei bysgota.

Beth, tybed, sy'n ein haros yn y dyfodol.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy