| Cyngerdd Agored Cyfle 'Stiniog ym maes parcio'r Queens ac yna Cyngerdd hynod lwyddiannus ac uchel ei safon yn y Ganolfan Porthmadog gyda Chôr Meibion Caernarfon, Huw Ynyr a Hywel Jones. Yn ystod y cyngerdd hwnnw cyflwynodd yr arweinydd John Glyn Jones gwpan Robin Gwynant i ddau aelod ifanc mwyaf addawol y band am eleni sef Bethan Angharad Jones ac Euros Lake. Llongyfarchiadau i'r ddau ohonynt. Yn dilyn cyngerdd arall ar ddechrau mis Tachwedd yn Llanuwchllyn bydd yn amser paratoi ar gyfer gweithgareddau'r Nadolig unwaith eto. Dechreuir ar y cyntaf o Ragfyr gydag ymddangosiad yn noson goleuo 'Stiniog ac yna i ddilyn bydd ymweliadau â chartrefi'r henoed a'r Ysbyty i chwarae ychydig o garolau fel arfer. Yna daw pinacl tymor y Nadolig i'r band gyda'r Cyngerdd Blynyddol yn Ysgol y Moelwyn. Eleni cawn gwmni Glyn Owens, Dinbych, un o arweinyddion mwyaf ffraeth y 'Noson Lawen' ar S4C a Meibion Dwyfor yn ffres o'u taith hynod lwyddiannus i'r Iwerddon yn ddiweddar. Seren y noson fydd Dewi Ellis Jones. Bachgen ifanc hynod dalentog sydd yn cael ei gyfri yn un o'r offerynwyr-taro gorau'r wlad. Ers iddo ryddhau ei gryno-ddisg gyntaf yn ystod yr haf eleni cafodd wahoddiad i berfformio gyda llawer cerddorfa a band pres yng Nghymru a Lloegr. Yn fuan iawn bydd yn teithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru. Bydd croesawu Dewi yn fraint ac yn bleser a gallwn eich sicrhau y bydd ei berfformiadau ar y 'xylophone' a'r 'marimba' yn addas iawn i naws y Nadolig ym Mlaenau Ffestiniog. Dewch yn llu i brofi gwledd!!!! Bydd tocynnau ar werth yn yr Hen Bost o ddiwedd Tachwedd ymlaen.
 |