Ymgasglodd 150 o redwyr ar gae Ysgol y Moelwyn ger Sgwâr Oakley, ac roedd yr ystod oedran yn ymestyn o'r categori dan ddeuddeg oed i ddynion dros ddeg a thrigain. 'Roedd nifer o'r rhedwyr yn brofiadol iawn ac yn gwir edrych ymlaen at y sialens.
Ar y cae hefyd, yng nghanol y bwrlwm roedd criw ffilmio 'Wedi Saith' yn recordio eitem ar gyfer rhaglen i'w darlledu ar y nos Lun ganlynol, a honno'n cael ei chyflwyno gan Gerallt Pennant.
Cafwyd ras lwyddiannus iawn, gyda phob rhedwr yn cwblhau'r cwrs - pawb wedi gwirioni gyda'r trefniadau ac yn addo dychwelyd yn 2009.
Enillydd y ras i oedolion oedd Richard Roberts o Fethesda mewn 1 awr 28 munud a 15 eiliad - munud a hanner yn unig yn fyr o dorri record y cwrs. (Heblaw am y gwynt cryf buasai wedi hen sefydlu amser newydd). Roland Stafford o'r Trallwng oedd yn ail mewn (1:21:58), a Francis Blunt o Cumbria yn drydydd (1:23:11). Y redwraig gyntaf yn ôl i'r cae oedd Kate Bailey o Staff.ord mewn 1:36:27. Yr ail oedd Anna Bartlet o'r Amwythig (1:37:07), ac yn drydydd, Andrea Roberts, Clwb Eryri (1:38:47). Enillwyd y ras i rai dros 40 oed gan Steven Gilliland o Fro Dysynni (1:25:43), dros 50 oed gan Eilir Evans, Clwb Eryri (1:36:51), a thros 60 oed gan Donald Williams mewn amser arbennig a dda (1:44:55). Enillydd y ras dros 60 aed i ferched aedd Eluned Salisbury (2:05:30). Y rhedwyr lleol cyntaf i gwblhau'r ras oedd Craig South o Danygrisiau mewn 1:50:02, gydag Euron Raberts a'r Manod yn ei ddilyn mewn amser canmoladwy o 1:54.
Cymerodd nifer dda a ieuenctid ran yn yr oedrannau iau eleni. Roedd y rhain, wrth gwrs, yn rhedeg dros gyrsiau byrrach. Dan 12 oed, y cyntaf oedd Gerwyn Sian Roberts o'r Manod (18:51), yn ail, Arron Roberts (19:13) ac yn drydydd Osian Williams (21:33). Dan 14 oed, daeth Huw Llywelyn Parry yn gyntaf (20:37), Dion Roberts yn ail (22:55) ac Iwan Llywelyn Jones yn drydydd (24:01).
Dan 16 oed, Jake Buxton Sherriff ddaeth yn gyntaf (24:17), Tom Budesha yn ail (24:53) a Gethin Humphreys yn drydydd 2(6:01). Jessica McAuley oedd yr unig un i redeg o dan 18 a'i hamser hi oedd 54:30.
Trefnwyd ras o amgylch y cae ar gyfer plant dan 10 oed, a daeth Iolo Thomas, Osian Dafydd Evans a Mal Evans yn gyntaf, ail a thrydydd. Oherwydd cryfder y gwynt, methwyd codi'r castell gwynt a'r wal ddringo - 'roedd yr elfennau, ynghyd â rheolau iechyd a diogelwch yn drech na ni!
Cychwynnwyd y ras eleni drwy chwifio baner y Ddraig Goch gan y gŵr hynaws
hwnnw, Mr Rashid - pabydd a pherchennag y 'Madel Bakery.' Diolch a galon iddo am ei wasanaeth.
Cyn dechrau'r Ras, cafwyd munud o dawelwch er cof am Gareth Humphreys, Machros, Sgwâr Oakley. Gwasanaethodd Gareth fel marsial am lawer blwyddyn a mawr fydd y bwlch ar ei ôl. Cydymdeimlwn yn ddiffuant fel criw â Ceinwen a'r teulu yn eu colled.