Roedd eu teulu'n hanu o bentref Llanfrothen a chefais glywed ganddynt bod eu hen, hen daid wedi ysgrifennu hanes y teulu ar ôl iddo gyrraedd yr Unol Daleithiau a bod yr hanes hwnnw wedi cael ei gyfieithu wedyn i'r Saesneg.
Cipolwg ar y cyfieithiad yn unig a gefais i ac roedd yn anodd dehongli ambell enw Cymraeg a gam-sillafwyd ynddo.
Fron Wen yn Nantmor oedd y cartref gwreiddiol a chefais wybod hefyd am gysylltiadau'r teulu efo Croesor a'r Blaenau.
Mae'n debyg bod yr hen hen daid, sef David Robert Roberts, wedi cael ei fedyddio i'r ffydd Formonaidd mewn pwll yn yr afon Pandy gerllaw Gelli Cornwydydd.
Pan es a'r ddau ifanc i weld y pwll hwnnw, daeth gwraig y
Gelli atom i'n holi a dywedodd fod Athro o
Brifysgol Brigham Young wedi bod yno rai misoedd ynghynt, ar yr un trywydd. (Gyda llaw, teitl llawn yr Athro hwnnw yw 'Prof Ron Dennis, Professor of Welsh and Portugese'. Sut ar y ddaear y mae'r ddwy iaith yn cyd -fyw o fewn yr un Adran sy'n ddirgelwch i mi!).
Fe briododd David Robert Roberts a merch Creua, Llanfrothen a buont yn byw am gyfnod yn Llwyn Gell yn y Blaenau.
Mae Cyfrifiad 1851 yn dangos ei fod ef a'i fab tair-ar-ddeg oed yn gweithio yn y chwarel ar y pryd;.
Chwarel Llechwedd, mwy na thebyg.
Yna, fe symudodd y teulu i ardal Bethania i fyw ond nid oes enw tŷ na stryd i ddynodi ymhle.
Mae'n ymddangos bod nifer o drigolion Blaenau wedi mabwysiadu'r ffydd Formonaidd yn y cyfnod hwnnw ac mai erledigaeth a'u gyrrodd ymhen amser i'r Unol Daleithiau i fyw.
Fe fu i David Robert Roberts gynnal yr eglwys yn Stiniog am rai
blynyddoedd ond gan nad oes unrhyw gofnod o dy cwrdd yn yr ardal, yna rhaid casglu mai yn nhai ei gilydd y byddai'r Mormoniaid cynnar hynny yn cyfarfod.
Fe fedyddiodd David Robert Roberts ei blant i gyd mewn pwll yn yr Afon Ddwyryd, tu ôl i ffatri Rhydsarn (neu 'Caffi Ffrensh' i oes ddiweddarach!).
Ond yna fe ddaeth tro ar fyd ac, er mwyn cael llonydd i addoli yn eu ffordd eu hunain, fe hwyliodd y teulu - y rhieni a'u pum plentyn - drosodd i'r Byd Newydd.
Oherwydd eu tlodi, bu'n rhaid iddynt gerdded yr holl ffordd i Borthaethwy, i ddal cwch am Lerpwl ac aros dyddiau yn fan'no wedvn am long i'r Unol Daleithiau.
Bu'r fordaith yn un hir a garw - ar eu traed ac ar y dec drwy'r dydd a chysgu bob nos ar lawr coed caled.
Yna, wedi cyrraedd Efrog Newydd, cerdded yr holl ffordd i Utah - taith o tua deuddeg can milltir!
Bu farw Robert David Roberts yn y dalaith honno ym 1925.
Fe gafodd y brawd a chwaer ifanc fwynhad mawr o'u hymweliad â'r ardal ac maent yn bwriadu dod yn ôl eto, cyn bo hir, i wneud mwy o ymchwil i hanes eu teulu.
Yn y cyfamser, tybed a all unrhyw un o ddarllenwyr Llafar Bro eu helpu?
Arthur Thomas,Porthmadog