BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Prif stryd Blaenau FfestiniogPetha sy'n peri pryder
Ionawr 2006
Yr A470 ydi'r briffordd rhwng Caerdydd a Llandudno. Y brif wythïen gyswllt rhwng De a Gogledd!
Ac mae unrhyw un sy'n gyfarwydd â hi yn gwybod fel mae'r ffordd honno, erbyn heddiw, yn osgoi'r rhan fwyaf o'r trefi a'r pentrefi oedd yn arfer bod ar ei llwybr hi yn y dyddiau a fu.

Erbyn heddiw, mae'r A470 yn osgoi llefydd fel Pontypridd a Merthyr Tydfil, Aberhonddu, a Llanidloes, Dolgellau, Trawsfynydd a Chyffordd Llandudno. A deud y gwir, yr unig lefydd o unrhyw faint sy'n dal arni hi bellach ydi Rhaeadr, Blaena, Llanrwst a Glanconwy.

Ond am ba hyd y bydd hynny, meddech chi? Waeth i ni fod yn onest ddim. Erbyn heddiw, mae gyrru car trwy'r Manod a chanol Blaena wedi mynd yn gur pen go iawn i bawb.

Yn y Manod a'r Glasfryn, wrth y Cambrian ac ar Stryd yr Eglwys, does dim lle i ddau gar basio'i gilydd, heb sôn am ddwy lorri neu ddau fws. Mae car (os nad dau) wedi'i barcio o flaen pob tŷ bron, ac ambell un wedi'i barcio mewn lle digon od a pheryglus hefyd. Ac i neud petha'n waeth, fe glywir sôn am adeiladu rhagor o dai ar fin y ffordd fawr, yn hytrach na chreu mwy o lefydd parcio! Dydi'r peth ddim yn gneud synnwyr.

Felly, y cwestiwn mawr, rŵan, ydi hwn. Pa mor hir cyn y bydd rhywun neu'i gilydd tua Chaerdydd 'na yn penderfynu bod yn rhaid osgoi tre'r Blaena hefyd? Wedi'r cyfan mae'r lle'n cael ei anwybyddu ar lawer o'r prif arwyddion ffyrdd yn barod! Ac ar fapiau ceir (road maps), mae enw'r dre yn ymddangos mewn print mân fel tae hi ond pentre bach fel Ganllwyd neu Talsarnau. Pa ryfedd, felly, bod twristiaid, wrth astudio mapiau o'r fath, yn meddwl bod Porthmadog a Bala a Betws y Coed yn llefydd llawer iawn mwy, a llawer pwysicach?

Pryder arall ydi cyflwr y feiaduct hardd sy'n cael ei galw'n Bont Gethin, rhwng Dolwyddelan a Betws. Erbyn hyn, mae pob math o lwyni'n tyfu allan ohoni a'u gwreiddia nhw'n llacio mwy a mwy ar gerrig y bont, siŵr o fod. Os na fydd rhywbeth yn cael ei neud yn fuan i'w diogelu hi, yna bydd rhywun neu'i gilydd yn penderfynu bod cyflwr y bont yn rhy beryglus i gario'r rheilffordd. Ac os digwydd hynny, wel dyna ddiwedd am byth ar drên yn rhedeg rhwng Blaena a Chyffordd Llandudno!

Un sylw bach arall cyn rhoi pen ar y mwdwl. Dro'n ôl, mae gen i gof bod disgyblion Ysgol y Moelwyn wedi awgrymu addasu'r rheilffordd rhwng Blaena a'r Traws a'i throi hi'n llwybr beicio. Gwych o syniad! Ond does neb, hyd yma, wedi rhoi clust iddo! Ac yn y cyfamser, mae cyflwr y trac nid yn unig yn dirywio'n gyflym ond mae o hefyd yn brysur fynd yn strimyn o domen sbwriel flêr. Trist o beth!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy