| Mae effaith y ffrwydriad yn creu tonnau anferth yn y cefnforoedd, mae'r iseldiroedd yn cael eu boddi, a daeargrynfeydd a gaeaf hir a chaled yn profi dawn yr ychydig unigolion sydd ar ôl i oroesi. Dyna destun The Gates of Hell - stori fawr yn cael ei hadrodd yn dda. Mae prinder mawr o nofelau Saesneg sy'n darlunio cefndir Cymraeg a Chymreig ac mae Geraint wedi rhoi'r gwrthdaro rhwng mewnfudwyr di-ddallt a'r diwylliant Cymraeg yn rhan o wead y nofel yn ogystal. Mae adnabyddiaeth yr awdur o dre chwarel, ei chymeriadau - a'i chlwb rygbi - yn rhoi pleser mawr ir stori bwerus hon. The Gates of Hell Gwasg Carreg Gwalch. £9.99
 |