| Hynny yw darluniau tri dimensiwn o olygfeydd yn Eryri a Gorllewin yr Unol Daleithiau.
Ar ôl i mi ymddeol a symud efo fy ngwraig i fyw ym Mlaenau Ffestiniog dair blynedd yn ôl, mi groesawon ni'r cyfle i ddod i nabod pobl leol, a sgwrsio efo nhw yn Gymraeg (mae gynnyn nhw lawer o amynedd!). Rydan ni'n mwynhau byw mewn ardal mor hardd ymysg cymdogion mor gyfeillgar. Felly mi ges i wahoddiad i gyfrannu pwt bach ar gyfer y papur bro, a dyma fo! Dechreuais i adeiladu modelau rheilffyrdd tua chwarter canrif yn ôl ym Manceinion, ond ar y pryd roedd gynnon ni lond tŷ o blant bach. Hefyd roedd rhaid i mi fynd allan i weithio fel athro ac felly ches i ddim llawer o gyfle i ddatblygu fy sgiliau yn yr adran fodelu yr adeg hon. Efo rhai enthusiasts modelau rheilffyrdd yr uchafbwynt ydy rhedeg lot o drenau bach stem trwy'r amser, ond er mod i'n licio trenau, mae'n rhaid i mi gyfaddef mai creu golygfeydd sy'n edrych fel y peth go iawn yw fy mhrif ddiddordeb, heb ddarlunio lleoedd penodol; dw'i yn canolbwyntio ar ailgreu argraff yr ardal sy'n deffro atgofion. Yn y cyfnod cynnar gweithiais ar raddfa 'OO', efo un layout mawr yn yr atig, a oedd yn darlunio'r ardal arfordirol ger Harlech. Doedd gen i ddim amser i fynd i arddangosfeydd ar y pryd, felly anfonias erthygl i gylchgrawn mode1 rheilffordd, ac roeddwn i'n hapus dros ben wrth iddo gael ei gyhoeddi! Erbyn hyn, dwi'n canolbwyntio ar gynlluniau llai, ar raddfa 'N', ac yn mynd a nhw i arddangosfeydd lleol a hefyd i rai pell i ffwrdd yn Lloegr! Dwi'n dal i sgrifennu erthyglau sy'n disgrifio'r ffordd dwi'n gweithio (cael hwyl a fasai'n well ddisgrifiad!) Tasech chi'n licio gweld beth dw'i yn ei wneud, mi fydd cyfle i gwrdd a fi yng Nghanolfan Hamdden Porthmadog y penwythnos gyntaf o fis Awst yn yr arddangosfa trenau bach a fydd yn cael ei chynnal yno. Hefyd mi fydda i yn mynd a fy layout newydd, 'Caer Faban' i Abergele (19-20 Awst) a Machynlleth (26-28 Awst). 'Caer Faban' ydi enw'r fferm ger Llanrwst, ond mae'r cynllun yn dangos hefyd yr aber ym Mhorthmadog a'r tollffordd ym Mhenmaenpwll ger y Bermo - fy steil i ydi cymysgu pethau i greu llun tri dimensiwn hanner ddychmygol, fel dwedais yn gynharach! John Parkinson, Bryn Bowydd Diolch o galon i John am ei erthygl ddifyr iawn, a phob lwc iddo ar ei arddangosfeydd. Melys Moes Mwy. Edrychwn ymlaen i glywed gennych eto yn y dyfodol John.
 |