BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Llun wedi ei dynnu gan Griffith DaviesTro ar Fyd
Medi 2008
Gan Roy o Oz

Helo Llafar Bro! Dyma fi unwaith eto yn eistedd lawr efo tipyn o newydd.

Fe gefais ddwy dudalen gan fy nghefnder Gwyn, ac Anna Edwards Oxford St. rai misoedd yn ôl ac wedi eu cadw'n ddiogel, gyda'r bwriad o yrru ymateb tua troad y flwyddyn.

Ond pan es i chwilio amdanynt, methodd Ann a finna eu cael yn unman, a dywedodd wrthyf i'w gadael ac fe ddônt i'r fei cyn hir a hwyr.

Gwir y gair hefyd, megis euthum i chwilio am amlen i roi papurau'r dyn treth ynddi, a dyna nhw, yn berffaith ddiogel!

Teitl y darn oedd Tro ar Fyd, am hanes sinemâu y Blaenau, sef yr Empire, y Park, a'r Forum.

Pwy tybed feddylioch ddechreuodd y sinema cyntaf? Yn ôl fy nhad - ac mae'n berffaith wir - ei ewythr Griffith Owen Davies, a'i wraig Gwen (Rowlands gynt), fu'n gyfrifol, a hynny yn rhif 3 Ffordd y Manod.

Roedd y sinema yn y llofft uwchben ei siop groser, gyda phawb yn dringo grisiau haearn ac yn eistedd ar feinciau pren ar gost o geiniog yr un.

Bu 'nhad - Robert William Rowlands, Hengwrt - yno'n 5 oed, a chai ei ddifetha gan y teulu.

Roedd Griffith Davies yn ŵr modern iawn: os oedd rhywbeth newydd ar y farchnad (ac roedd hyn yn digwydd yn fynych bryd hynny) 'roedd yn rhaid iddo'i gael.

Mae gennyf lun o fy nhad yn gwrando ar gramoffon ym 1907, ac yntau wedi colli ei ddannedd blaen!

Diddordeb arall gan Griffith oedd ffotograffiaeth, a byddai'n arbrofi efo lluniau i greu 'trick photography', fel yn yr enghraifft yma gyda 'nhad yn y llun ddwywaith: yn gwthio cert tra'n eistedd ynddo 'run pryd! Roy o Oz


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy