Ffrwyth llafur ymchwil y diweddar hanesydd lleol gwych, Ernest Jones yw'r cynnwys, ac wedi'i grynhoi gennyf ar gyfer Llafar Bro yn fisol. Gan nad oedd dim bron wedi'i ysgrifennu am hanes clybiau pêl-droed Stiniog, roedd Ernest, a oedd yn gefnogwr brwd o'r 'Town Team' wedi bwriadu mynd ati i gyhoeddi cyfrol i'r perwyl hwnnw. Ond, yn anffodus, bu i afiechyd ei lethu cyn cwblhau'r dasg. Felly, o barch i ymdrechion Ernest yn casglu'r holl wybodaeth am brif dim y dref, yn bennaf, gobeithio y caiff yr erthyglau eu derbyn yn gynnes gennych. Rhaid diolch i Ronnie Jones, Heol Bowydd am drosglwyddo gwaith Ernest i'm gofal dros dro, tra bum yn dewis a dethol o'r casgliad o bapurau Ernest ar bêl-droed.
Vivian Parry Williams.Dyma grynodeb o'r hyn sydd i ddod dros y misoedd nesaf:
Yn ôl Ernest Jones, yn 1890 y sefydlwyd tîm pêl-droed y Blaenau, neu'r Blaenau FC, a chwaraewyd y gemau cynnar ar gae yn Rhiwbryfdir, ar dir sydd wedi'i gladdu dan domenni llechi ers achau. Ers y dyddiau hynny, newidiodd y clwb ei gartre' sawl gwaith - i'r Manod, Dorfil, Glanypwll, Tanygrisiau a bellach i Gae Clyd.
Enw urddasol oedd i'w maes cyntaf, Holland Park - wedi'i enwi ar ôl chwarel o'r un enw - ond cae digon di-urddas oedd hwn mewn ffaith, un oedd yn wlyb iawn dan draed.
Lleolwyd yr ail faes, ym 1898, yn y Manod, a elwid yn Manod Recreation Field, ar safle isaf y gwaith Setts, rwy'n credu. Er i hwnnw fod yn gae eitha' sych o'i gymharu a Pharc Holand, gostyngodd arian y gwylwyr yn syfrdannol, oherwydd i nifer fawr weld y gemau am ddim, trwy ddringo'r llethrau o amgylch y maes. Cwynai'r awdurdod lleol hefyd fod rhai yn gwylio'r gemau o fynwent Bethesda gerllaw.
Wedi naw mlynedd symudodd y clwb pêl-droed i ganol y dref, i Barc Newborough, a dyna pryd y daeth Blaenau FC yn dîm o safon ymhlith clybiau Gogledd Cymru.
Roedd sawl anhawster, er hynny, ynglŷn a'r safle hwn; roedd yr ystafelloedd newid 700 llath o bellter o'r maes, ac er i'r cae fod yn dwt ac yn gryno, ac wedi'i gau i mewn yn daclus, roedd yn rhy fach i'r tîm gynnal gemau pwysig arno, ac i ddal y tyrfaoedd mawrion o wylwyr.
Bu bron i'r clwb beidio a bod yn 1922, ond daeth adnewyddiad, a bu'r pwyllgor yn ffodus o gael gafael ar gae mawr yng Nglanypwll ym 1929, Haygarth Park, ar rent. Yn nes ymlaen gosodwyd ystafelloedd newid yno, mewn hen gytiau Nissen.
Symudwyd o Barc Haygarth ym 1952, oherwydd bod angen y safle i godi ffatri barod, ffatri Metcalfe bresennol arni.
Y maes nesaf oedd ger yr hen ysgol yn Nhanygrisiau, a'r ysgol honno a ddefnyddid fel ystafelloedd newid.
Ym 1956, cafwyd maes ardderchog yng Nghae Clyd, Manod, a symudodd y clwb pêl-droed o un pen i'r dref i'r pen arall. Cyn codi ystafelloedd newid pwrpasol, defnyddiwyd adeilad yn perthyn i dŷ cyfagos fel lle i newid ac ymolchi wedi'r gemau. Fel cysgodfan i'r cefnogwyr prynwyd rhan o hen stesion Rheilffordd Ffestiniog a safai ar Sgwâr Diffwys, ac mae hwn yn dal i wrthsefyll glaw Stiniog hyd heddiw.
Yn ystod yr holl fudo o faes i faes, bu i dîm y Blaenau ennill pencampwriaeth Gogledd Cymru ddwywaith, ym 1913 a 1962. Enillwyd pencampwriaeth yr ail adran hefyd, ym 1928. Wedi'r mudo i Gae Clyd, bu i glwb y dre' wneud yn dda iawn yn rheolaidd mewn cystadlaethau rhanbarthol. Er na fu llawer o lewyrch ar eu hymdrechion yng Nghwpan Cenedlaethol Cymru dros y blynyddoedd, cafwyd sawl llwyddiant mewn cystadlaethau eraill, megis Cwpan Cokson, Cwpan Her y Gogledd (y Challenge Cup) a Chwpan Alves. Pinacl llwyddiant y clwb oedd ym 1958-9, pan enillwyd y Gwpan Her a'r Cookson, a dod yn uchel yn y gynghrair.
Ymysg y cewri o'r Blaenau a fu'n chwarae i glwbiau yng Nghyngrair Lloegr, ceir y canlynol: Robert Mills Roberts (Preston North End a Chymru); Caradog Davies (Bolton Wanderers, a gapiwyd fel amateur dros Gymru); W.J. Hughes (Dinas Caer); Bob Davies (Notts Forest a Chymru); Glyn B. Jones (Man Utd a Chaerdydd - chwarae dros Gymru yn yr Alban ym 1928); Gwilym (Peniel) Roberts (Bolton); Gwynfor Hughes (Northampton); David Jones (Stoke City); William Parry (Gillingham) a Gwyn Morgans (Wrecsam).