BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Sgwad pêl-droed dan 11 Blaenau Ffestiniog (Llun Elfyn Vaughan Jones)Tîm pêl-droed
Mehefin 2008
Testun balchder unwaith eto yw cael tystio i lwyddiant tîm pêl-Droed dan 11 Blaenau Ffestiniog.
.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae'r tîm wedi dod o fewn trwch blewyn i gipio Ffestiniog. pencampwriaeth Cynghrair Llyn ac Eifionydd.

Ers cychwyn y tymor, dim ond dwy gêm y mae'r hogiau wedi eu colli ac mae'r perfformiadau disglair hynny wedi gwarantu lle i 5 aelod o'r tîm yng ngharfan tîm y gynghrair - Urien Elfyn, Meilir Williams, Gethin Williams, Aron Hughes a Tyler French.

Llongyfarchiadau calonnog hefyd i'r tîm ar ennill Cwpan y Gynghrair 2008.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth undydd ym Mhorthmadog eleni ac yn dilyn buddugoliaethau hawdd yn erbyn Dolgellau, Llanbedr a Bro Enlli, a gêm gyfartal yn erbyn Llanystumdwy, fe gurodd yr hogia dîm Porthmadog yn y rownd derfynol o un gôl i ddim.

Ac nid gôl gyffredin mohoni chwaith, gan i Meilir Williams daro'r bel i gefn y rhwyd o dros ugain llath! Gôl y tymor yn ddios!

Aelodau'r garfan ydy: Tyler French, Jack Diamond, Iwan Williams, Gethin Williams, Urien Elfyn (capten), Meilir Williams, Gethin Edwards, Alun Hughes, Aron Hughes, Cai Hughes, Sion Bradley, Sion Jones, Sion Hughes, Andrew Williams, Ian Roberts, Huw Parry, Aron Kirkman, Carwyn Williams, Owen Hughes, Steff Jones.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy