BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Agor y siop wybodaethLlywio'r Llwybr
Medi 2004
Siop Wybodaeth i Bobl Ifanc
Wel, dyma ni, un deufis lawr y llwybr ers i'r siop wybodaeth i bobl ifanc rhwng 11-25 mlwydd oed agor ei ddrysau.
Mae wedi bod yn amser difyr iawn. Cawsom agoriad swyddogol ar y cyntaf o Orffennaf. Cawsom Llion Williams, sef 'George' o 'C'mon Midfield', yn dadorchuddio'r lechan gyda'i ddawn i roi gwên ar wynebau pawb. Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd yr agoriad, a'r rhai sydd wedi galw heibio wedi'r hyn.

Mae defnydd o'r siop wedi bod yn rheolaidd ers y cychwyn. Gan fod y gwasanaeth yn un gyfrinachol, nid wyf am fanylu gormod ar eu hanghenion, digon yw dweud ein bod yn barod wedi medru bod o wasanaeth i ambell i unigolyn ifanc o'r plwyf. Braf iawn yw gweld eu brwdfrydedd ar ddeall beth yw gwasanaethau'r siop, a'u gweld yn gyfforddus yn ei ddefnyddio.

Mae'r asiantaethau sydd yn defnyddio'r siop yn bresennol i gynnal gwasanaeth un-i-un wedi cael pobl yn galw heibio am eu cyngor a gwybodaeth. Hefyd, bydd asiantaethau eraill yn galw i mewn i gynnal sesiynau galw heibio, yn ogystal â sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant. Yn bresennol mae gennym:

Nyrs y Gymuned; pob dydd Llun, rhwng 1 a 6;
Cynorthwy-ydd Gyrfaol; pob Gwener, 3 - 5.

Ar Fedi 15, fe fydd 'Tros Cynnal' yn cynnal diwrnod agored i bawb yma, felly cofiwch alw heibio i'w gweld. Fe fyddant yn cychwyn ar eu gwasanaeth un i un yma pob dydd Mercher, rhwng 3 a 6.

Mae'r ystafell fawr sydd gennym hefyd wedi cael ei defnyddio'n rheolaidd gan asiantaethau i gynnal cyfarfodydd. Yn ogystal, mae criw o bobl leol wedi ei defnyddio'n rheolaidd tra'n cael eu hyfforddi i fynd a phobl ifanc ar weithgareddau awyr agored, fel crwydo'r mynyddoedd a darllen mapiau, a.y.b. Os oes gennych ddiddordeb defnyddio'r ystafell hon, yna mae pob croeso i chwi gysylltu â ni ar y rhif isod, neu galwch i mewn i'r siop i'n gweld.

Cofiwch fod y gwasanaeth yma yn rhad ac am ddim gyda phamffledi, llawlyfrau, cyfrifiaduron, y we, y ffon, y ffacs yma'n barod ar gyfer defnydd y bobl ifanc. Rhai o'r pynciau ar gael yma yw cyflogaeth a hyfforddiant, yr amgylchedd, y byd, Ewrop, DU a Chymru, iechyd, y gyfraith a'ch hawliau, chwaraeon a hamdden, arian, teuluoedd a pherthnasau, a thai. Mi fydd dau aelod o staff ar gael i gynorthwyo gyda hel gwybodaeth, fel y mae ei angen.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a ni ar 01766 832 186, neu ysgrifennwch ataf, Catrin E. Roberts, Llywio'r Llwybr, Tŷ Abermawddach, 4 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES.

llywiorllwybr@deudraeth.net


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy