| Enillodd rai yng Nghynghrair Ffestiniog a'r Cylch a rhai eraill mewn cystadlaethau a gynhaliwyd yng Ngogledd a De Cymru. Mae Gerallt bellach wedi dechrau cystadlu yn Lloegr. Ymddangosodd yn Lerpwl, Coalvillea Chaerlŷr (Leicester), lle cafodd gryn lwyddiant dan 16 a 19 oed. Mae goreuon y wlad yn cystadlu'n y gornestau yma. Mae Gerallt yn fab i Careth a Meryl Price, Hafan ac yn ŵyr i Megan Price, BrynGwynant. Tybed a oes gennym Matthew Stevens neu Mark Williams y dyfodol yma'n ardal 'Llafar Bro?' Mae'n ymddangos felly! Da iawn ti Gerallt a phob llwyddiant i'r dyfodol. Hyderwn yn fawr y gwelwn di'n suddo'r 147 yn Theatr y Crochan yn Sheffield rhyw ddydd!
Llongyfarchiadau hefyd i James, mab Alan a Jill Williams, Y Llythyrdy, ar ei lwyddiant mewn Cystadleuaeth Fathemategol a drefnwyd gan y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn ddiweddar. Disgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol y Moelwyn yw James. Derbyniodd ganmoliaeth uchel am waith o safon uchel. Bydd yn cael ei wobrwyo ar Fehefin 2 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, a hynny mewn seremoni a drefnir mewn cydweithrediad ag Eisteddfod yr Urdd. Da iawn ti, James - mae Nesta Evans, colofnydd y Llan yn edmygu pob un sydd yn dda mewn Mathemateg. Gall golygydd y mis uniaethu â hi hefyd. Tybed a ydy Einstein y dyfodol yn byw'n y Llan?
 |