| Oddi yno aethant i yrnweld ag amryw o safleoedd sy'n gysylltiedig â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Un o'r mannau pwysicaf wrth gwrs oedd bedd Hedd Wyn, y bardd o Drawsfynydd, ble y gosodwyd amryw
groesau. Yna aethant ymlaen i Fferm Essex ble roedd bynceri safleoedd clirio clwyfedigion wedi eu lleoli. Cafwyd ymweliad ag Amgueddfa Heddwch Ypres, a mynwent Tyne Cot lle claddwyd nifer fawr o luoedd y Gymanwlad. Ymlaen wedyn i amgueddfa danddaearol Albert a mynwent Danzil Alley yn ardal y Somme, cyn mynd ymlaen i weld cofeb Adran y 38ain Cymreig yng Nghoedlan Mametz. Yma mae draig fawr Gymreig wedi ei gosod ar dwr concrid, cerfiwyd ami amryw o fathodynnau cap y gwahanol gatrodau Cymreig. Ar ran y cyfeillion gosodwyd torch o babi coch gan Michael ]ennings, ysgrifennydd Cyrndeithas y Cymrodorion a Chlwb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ymwelwyd wedyn â'r gofeb 45 medr a godwyd yn Thiepval er cof am 72,000 o ddynion fu farw yng nghyflafan waedlyd y Somme. I orffen y daith yn Ffrainc aeth y grwp i Borth Menin yn Ypres ac ymdeimlo ag awyrgylch y man wrth wrando sŵn biwglwyr ac un pibydd. Taith gofiadwy a llawn teimlad i'r rhai a'i cymerodd.
 |