BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Canol Blaenau FfestiniogAdfywio Blaenau
Tachwedd 2008
Cynllun ar y cyd i adfywio canol tref Blaenau Ffestiniog.
Mae Blaenau Ymlaen mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth y Cynulliad yn falch o gyhoeddi bod gwaith ar fin cychwyn ar gynllun adfywio trefol yng nghanol tref Blaenau Ffestiniog.

Bydd y gwaith cychwynnol dros y misoedd nesaf yn cynnwys creu cynlluniau bras, trafod a chael barn a syniadau gan y trigolion.

Mae hwn yn newyddion da i'r dref wrth gwrs a hynny pan fo cymylau'r dirwasgiad ariannol yn crynhoi 'n gyflym ac unwaith eto melltith diweithdra yn taro rhai teuluoedd eisoes.

Mae'r gwaith newydd yn rhan o becyn adfywio eang a chyffrous yn y dref sy'n cynnwys prosiect i ddatblygu atyniad ymwelwyr "tywydd gwlyb", oriel o dalent lleol a chanolfan ar gyfer y diwydiannau creadigol yn Neuadd y Farchnad.

Yn ogystal mae grŵp Antur 'Stiniog yn datblygu llwybrau beicio ar lethrau'r fro; tra bo cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn awyddus i ddatblygu a gwella ei gorsaf.

Rhan arall o'r strategaeth yw prosiect y Dref Werdd a fydd yn gweithio i leihau ôl troed carbon y dref a gwella amgylchedd yr ardal. Mae Blaenau Ymlaen hefyd yn gweithio gyda Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru arrag1en hyfforddiant gynhwysfawr ar gyfer busnesau'r sector dwristiaeth.

Canol y dref yw'r prosiect nesaf. Y bwriad yw gwella edrychiad y dref ar gyfer y trigolion a'r ymwelwyr a'r gobaith yw y bydd hyn yn ei dro yn datblygu economi'r ardal ac yn gwella'r amgylchedd ar yr un pryd. Y bwriad yw datblygu'r pecyn cyfan ar themâu megis hanes, treftadaeth, diwylliant a iaith.. Mae'r gwaith cychwynnol hwn yn cynnwys creu cynlluniau ar gyfer y datblygiad gan gynnwys y gymuned a'isyniadau.

Dywedodd cadeirydd grŵp Strategol Blaenau Ymlaen, Bob Cole: "Mae cymaint o ymwelwyr yn cyrraedd yr ardal bob blwyddyn, ond mae'r budd economaidd i'r dref yn isel iawn. Mae'r her yn amlwg i ni, sef cynyddu gwerth y sector i fasnachwyr y dref."

Ychwanegodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru Ieuan Wyn Jones: "Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cam hwn ymlaen wrth wella ansawdd bywyd a ffyniant ein holl gymunedau yn unol a'n rhaglen llywodraeth 'Cymru'n Un'.

Bydd y prosiect cyffrous hwn yn cryfhau atyniad Blaenau Ffestiniog a hybu datblygiad economi'r gymuned leol," meddai Mr Jones, sy'n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Mae cwmni Miller Research a'r arlunydd lleol Howard Bowcott wedi eu penodi i arwain ar y gwaith o greu cynlluniau newydd ar gyfer canol y dref. Bydd cyfleoedd i drigolion gymryd rhan yn y broses ddylunio dros y misoedd nesaf,

Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn ariannu'r gwaith a disgwylir i ddyluniadau cychwynnol fod wedi ei cwblhau erbyn gwanwyn 2009.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis, Arweinydd Cyngor Gwynedd ar yr Economi ac Adfywio: . "Mae gan ardal Blaenau Ffestiniog hanes a diwylliant cyfoethog ac mae'n braf gweld grwpiau lleol yn gweithio gyda'i gilydd er budd y dref a'r ardal ehangach. Ein nod, drwy weithio gyda'n gilydd a datblygu cynlluniau blaengar, yw rhoi hwb sylweddol i fusnesau'r dref, yr economi leol a'r gymuned ehangach gan sicrhau fod gan Blaenau Ffestiniog ddyfodol disglair i edrych ymlaen ato.

"Mae'n bwysig iawn fod trigolion lleol a busnesau'r ardal yn cael dweud yr hyn yr hoffent hwy ei weld ar gyfer y dref - mae eu cefnogaeth nhw yn allweddol i lwyddiant y cynllun.

Ychwanegodd yr aelod lleol ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts: "Dwi'n croesawu'r datblygiad yma yn fawr ac yn hyderus y bydd Y gwaith yn gwella edrychiad canol y dref ac yn fudd aruthrol i economi'r ardal."

Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael drwy gysylltu gyda Pryderi ap Rhisiart, Swyddog Adfywio Ffestiniog ac Eifionydd Cyngor Gwynedd ar 01766512499 neu drwy fynd ar wefan www.blaenauymlaen.org

Pwy yn union yw Blaenau Ymlaen? Dyma fudiad gwirfoddol cyfansoddedig sy'n annog grwpiau gwirfoddol a phroffesiynol i weithio fel partneriaid er mwyn adfywio'r dref.

Mae nifer o bartneriaid: Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Y Siambr Fasnach, Cyngor Tref Ffestiniog, Antur 'Stiniog, Mudiad y Dref Werdd, Cymunedau Gyntaf, Menter y Moelwyn, Rheilffordd Ffestiniog, Cyfle Ffestiniog a Phatneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.

Mae gan Blaenau Ymlaen weledigaeth ar gyfer y dref a bu'n gweithio i ddatblygu strategaeth adfywio integredig ar gyfer y dref.

Y bwriad yw creu tref fywiog a chyffrous - lle braf i fyw a gweithio ynddo a hefyd i ymweld - sy'n enwog am ei diwylliant, ei hymdeimlad o gymuned a'r amgylchfyd naturiol gwych.

Dylai'r dref adeiladu ar y nodweddion unigryw hyn mewn modd cynaliadwy er mwyn sicrhau adfywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Dros y pum mlynedd nesaf y bwriad yw canolbwyntio ar dwristiaeth a'r potensial a sut i gymryd mantais o'r potensial hwn.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy