Nid yw ei enw'n hysbys, ond ymddengys ei fod yn un o berchnogion Chwarel Graigddu. Ef hefyd oedd goruchwyliwr y chwarel. Yn y flwyddyn 1853, cymerodd ystafell yn 'Hen Of Clwb' Llan Ffestiniog ar rent, a bu yn pregethu yno.
Ond am na fedrai bregethu yn Gymraeg, byr iawn fu parhad yr achos yno.
Yn ystod 1853 daeth gŵr o'r enw Morris Roberts i'r ardal.
Brodor o Benmachno oedd Morris Roberts, o deulu Wesleyaidd, ond wedi iddo symud i fyw i gyffiniau Corwen, ymunodd â'r Bedyddwyr, a chafodd ei fedyddio yn Llansantffraid gan y Dr. Pritchard, Llangollen.
Yn y cyfnod rhwng 1853 a 1855, yr oedd Samuel Holland, Ysw. A.S., yn paratoi i adeiladu nifer o dai i'w weithwyr yn ardal Tanygrisiau.
Morris Roberts o Lansantffraid gafodd y gwaith o godi'r tai. Daeth ei fab, Thomas yma i'w gynorthwyo, a bu'r ddau yn lletya'n yr ardal am beth amser cyn i weddill y teulu gyrraedd i'w ganlyn ym 1856.
Adeiladodd dŷ i'w deulu yn Afon Ro(w) - ar yr ochr chwith i'r ffordd sydd yn arwain i Danygrisiau.
Aelodau'r teulu oedd Morris Roberts a'i briod - dwy ferch a dau fab.
Derbyniasant eu papurau aelodaeth o eglwys Llansantffraid, ond am nad oedd gan y Bedyddwyr achos sefydlog yn y plwyf, eu bwriad oedd ymuno â'r Bedyddwyr Albanaidd.
Ond am resymau anhysbys, gwrthodwyd eu derbyn i rengoedd yr enwad hwnnw.
Teimlai'r brodyr Methodistaidd yn Nhanygrisiau dosturi drostynt, ac fe wahoddwyd y teuIu i ymuno â hwy.
Yr oedd eu hargyhoeddiadau fel 'trochwyr' yn gryf iawn, ac o'r herwydd, ni fedrent ymuno a'r un enwad arall.
Am nad oedd gan yr enwad yr un eglwys yn nes na Phorthmadog, aethant a'u tocynnau aelodaeth yno, a chael eu derbyn yn aelodau cyflawn.
Yr oedd yn rhaid cerdded y deuddeg milltir i Borthmadog ar y Sul, ac yn ôl pob sôn, yr oeddynt yn cyrraedd yn brydlon at oedfa ddeg y bore.
Yn ôl dyddiadur un o ferched Morris Roberts, arferid cynnal cyfarfodydd yn nhŷ ei thad ynAfon Ro(w).
Yn ystod y flwyddyn 1858, gweinyddwyd y cymun yno, a chafwyd yno bregethu'n achlysurol.
Roedd chwech yn cyd eistedd wrth y bwrdd yn y tŷ - pump o deulu Morris Roberts, a'r chweched yn hogyn ifanc o Fethesda, Arfon.
Ymhen rhai blynyddoedd wedi hynny, ordeiniwyd ef yn weinidog, ac adwaenid ef fel y Parch. W. Ogwennydd Jones.
Morris Roberts a adolygai'r achos, a'i ferch, Jane Roberts(Mrs David'Roberts, Rock Terrace wedi hynny) oedd yr ysgrifenyddes.
Sefydlwyd yr achos yn niwedd Medi neu ddechrau Hydref 1859.