BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
RheilfforddRheilffordd Dyffryn Conwy
Ebrill 2009
Yn ystod mis Tachwedd 2008, ymwelodd dirprwyaeth o Gyngor Gwynedd a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Trafodwyd y bygythiadau sy'n wynebu'r ardal, a cheisiwyd cae1 ymrwymiad gan y Cynulliad i roi ystyriaeth bellach i'r cyfleoedd i uwchraddio cyfleusterau Rheilffordd Dyffryn Conwy.

Mae Cyngor Gwynedd gyda Adran Economi a Thrafnidiaeth y Cynulliad, wedi comisiynu cwmni o ymgynghorwyr i edrych ar y budd posib allai ddeillio o gludo nwyddau a gwella gwasanaethau teithwyr ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy fel rhan o adfywiad economaidd ehangach Blaenau Ffestiniog a'r ardal o'i gwmpas.

Er bod cynllun wedi ei ddatblygu'n wreiddiol i gludo gwastraff llechi, bydd y gwaith yma hefyd yn edrych ar nwyddau a chwmnïau eraill fydd o bosib yn cludo nwyddau eraill yn ardal Meirionnydd.

Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried unrhyw effaith neu fudd a allai fod i deithwyr ar y rheilffordd.

Dywedodd Cynghorydd Gwilym Euros Roberts o Flaenau Ffestiniog: "Yn naturiol, dwi'n hynod o falch fod Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gwynedd yn ariannu'r gwaith pwysig hwn a dwi'n mawr obeithio y bydd canlyniad yr astudiaeth yn dangos fod achos busnes gryf ar gyfer uwchraddio'r rheilffordd er mwyn cludo nwyddau a theithwyr ar hyd y rheilffordd bwysig yma er mwyn creu cyfleon economaidd ar gyfer yr hir dymor yn ardal Blaenau Ffestiniog".

Tra bod yna gryn waith ymchwil eisoes wedi ei wneud dros y blynyddoedd a aeth heibio, mae'n ymddangos fod amgylchiadau a rahi ystyriaethau elfennol wedi newid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Er hynny, rhagwelir y bydd modd defnyddio gwybodaeth flaenorol sydd ar gael, a'i ddiweddaru yn ôl yr angen.

Bydd y gwaith o baratoi'r astudiaeth yn cynnwys ymgynghori gyda amryw fusnesau, asiantaethau a grwpiau cymunedol lleol.

Gobeithir y bydd yr adroddiad yn cael ei chwblhau erbyn diwedd mis Mai.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy