BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
TiwbaSeindorf yn Bencampwyr
Rhagfyr 2007
Seindorf yr Oakeley - Pencampwyr Gogledd Cymru 2007
Llongyfarchiadau i Seindorf yr Oakeley a'r arweinydd John Glyn Jones ar ennill dwy wobr gyntaf ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Gogledd Cymru (Dosbarth 3).
Enillodd y band y wobr yn Y Rhyl ddiwedd Tachwedd am yr ymdeithgan orau a chipio 'Cwpan Ken Williams' ac ennill 'Cwpan y Llywydd' am y darn prawf gorau.

Yn yr ail safle roedd Band Porthaethwy gyda Seindorf Tref Rhyl yn drydydd.

Er gwaethaf y fuddugoliaeth a llawenydd bu cyfnod o dristwch yn hanes y band yn ddiweddar pan gafwyd profedigaeth o golli aelod annwyl Terry Parry ar ôl gwaeledd hir a blin.

Brodor o 'Stiniog ydoedd ond wedi ymgartrefu yn Llandudno ers rhai blynyddoedd. Cafodd aelodau'r Seindorf y fraint o chwarae yr emyn don 'Deep Harmony' ar lan y bedd ddiwrnod ei angladd. Cydymdeimlwn yn fawr gyda'i wraig Minette a'r teulu a'u holl ffrindiau.

Ar Sul y Cofio eleni bu'r band allan yn gwasanaethu fel arfer ac fe anrhydeddwyd Dafydd Noel Jones gan y Lleng Brydeinig. Cyflwynwyd tystysgrif hardd iddo fel arwydd o werthfawrogiad am flynyddoedd o wasanaeth yn chwarae y 'Last Post' yn ystod y gwasanaethau.

Eleni mae Cyngerdd Nadolig y band yn cael ei gynnal ar nos Iau Rhagfyr 20fed yn Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog. Ein gwesteion eleni ydy Côr Bro Gwerfyl o dan arweiniad Margaret Edwards. Maent yn brysur gneud enwau iddynt eu hunain fel côr o leisiau ifanc o safon. Fe lansiwyd CD ganddynt yn ystod yr haf gyda chanmoliaeth uchel o bob cyfeiriad. Edrychwn ymlaen i'w croesawu i Stiniog i ddathlu'r Nadolig.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy