Mae hi'n gyfrol o fyfyrdodau a gweddïau ar gant o Emynau o 'Caneuon Ffydd' gan y Parchg. A. Wayne Hughes, gweinidog gofalaeth Bethania a Jerusalem.Bu i'r llywydd, Mrs Hazel Hughes, priod yr awdur, groesawu y gwahoddedigion oedd wedi dod o bell ag agos. Cafwyd gair gan y Parchg. Aled Davies, y Golygydd, ar ran Cyhoeddiadau'r Gair diolchodd i'r Parch A. Wayne Hughes am ei waith graenus. Yna bu i'r awdur gyflwyno copi o'r gyfrol i'r sawl oedd wedi bod yn gyfrifol am deipio'r cyfan - Mrs Heddus Williams.
Darllenwyd o'r Ysgrythur gan Mrs Ellen Evans (Bethania),
ac i ddilyn, arweiniwyd y gynulleidfa mewn gweddi gan Mrs Mena Jones (Jerusalem).
Yr emyn cyntaf ganwyd o'r gyfrol oedd 'Da yw ein byd, wrth lenwi'n hysguboriau' - emyn Dafydd Wyn Jones, Aberteifi (brawd y diweddar Barch Aled ap Gwynedd) - ac fe'i lediwyd gan Mr Tudur Jones (Jerusalem) - sy'n gefnder i'r awdur.
I ddilyn, darllenwyd y myfyrdodau ar yr emyn, sy'n dechrau fel yma:
'Pan ymddangosodd y llyfr emynau cydenwadol, hirddisgwyliedig, treuliais beth amser yn ymgyfarwyddo a'i gynnwys. Gweld colli ambell i emyn hoff, synnu wrth weld cynifer o ganeuon mewn idiom sy'n ddieithr i lawer ohonom. Ond ynghanol y cyfan, deuthum ar draws ambell i berl newydd sbon, megis yr emyn hwn. '
Miss Mary Davies (Bethania) lediodd yr ail emyn - 'Cais y Colledig' gan FJ. Alstyne (efelychiad gan Ieuan Gwyllt) - sy'n un o'r emynau a ymddangosodd yn 'Sŵn y Jiwbili 1874.'
Y Parchedig Anita Parry Ephraim, un o ffrindiau coleg yr awdur, lediodd y trydydd emyn _ "Pwy ddylai gael ei garu" gan Thomas Rees. Cafwyd gair i ddilyn ar ran yr Ofalaeth gan Mrs Mena Jones. Roedd wedi defnyddio tair llythyren gyntaf enw'r awdur - sef, yr 'A' - am Andrew, yr 'W' am Wayne, a'r 'H' am Hughes.
Mae'r 'A' yn diolch am ei anwyldeb yn arbennig yn y Gobeithlu wrth iddo ddysgu'r tonau i'r plant ar gyfer y Gymanfa Ganu i yn sefyll am ei allu - yn arbennig ym meysydd cerddoriaeth a chaniadaeth y cysegr. (Mae'r Parch Derwyn Morris Jones yn cyfeirio at hynny'n ei gyflwyniad i'r gyfrol). Saif yr 'A' hefyd am yr arweiniad a roes drwy'r blynyddoedd - mewn Oedfa, Seiat a Chyfarfod Gweddi.
Mae'r 'W' yn cyfeirio at ei weinidogaeth, a'i bregethu yn arbennig. Rhoddir y Crist mewn man canolog bob amser ganddo.
Mae'r 'H' yn cyfeirio at ei hynawsedd, ac at yr hiwmor a'r hwyl gafwyd yn ei gwmni dros y blynyddoedd.
Diolch i Mr Hughes am gyfrol arbennig hon, a hyderir y bydd y rhai fydd yn ei byseddu'n cael bendith o'i darllen, ac y bydd hefyd o gymorth i rai sy'n cynnal oedfaon yn ein heglwysi. Yr awdur ei hun gyflwynodd yr emyn olaf - 'Tyrd atom ni, O grëwr pob goleuni' ar dôn hyfryd Caradog Roberts - Berwyn. Dilchlodd i bawb a ddaeth ynghyd ac yn arbennig i Mrs Eluned Jones am ei gwasanaeth wrth yr oeffryn. Diolchodd hefyd am iddo gael y fraint o lunio'r gyfrol.
Mena Jones