| Yr oeddynt yn lletya gyda Raymond Cunnington, yr oedd Francis gwraig Raymond a Christina yn ffrindiau pan oedd yn ddwy yn byw yn ardal y Don. Yr oedd Christina wedi dod â nifer o hen luniau gyda hi, ac angen gwybodaeth, fe wnaed cais llwyddiannus yn y Cambrian News, gyda nifer o drigolion yn barod i gysylltu. Yn y llun, mae rhai a ddaeth i gartref Raymond, a threulio noson ddifyr o hel hanesion am y teulu, a'r hen amser yn y Blaenau. Yr oedd Brenda Stone yn byw drws nesa i Peggy yng Nghongl y Wal, pan oeddynt yn blant, wedyn mudo i Gae Clyd.
Jean Evans, ffrind a chymydog Peggy yn ardal Pen y Bryn, Tanymanod.
Maldwyn Vaughan Jones, tad Gwyn Vaughan ddaru gludo'r teulu i'r orsaf drên, a'u cychwyn ar y daith hir i Awstralia bell.
Mae angen gwybodaeth ar un o'r lluniau: llun tair o ferched ifane. Winifred Roberts, mam Peggy Szarmansci, sydd ar y dde, ei gŵr cyntaf oedd Belmore Davies, a'i ail ŵr oedd Robin Roberts, Gelli Uchaf, ac yn ddiweddarach i lawr cae i 3 Bronddwyryd. Pwy oedd y ddwy arall tybed?
Cysylltwch â Maldwyn Williams ar 831362.
 |