BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Gai Toms a Gari Gitâr o Glwb y TylluanodGŵyl yr haul!
Gorffennaf 2007
Roedd Gŵyl Car Gwyllt yn ddeg oed eleni - er mai'r flwyddyn nesaf fydd y ddegfed Ŵyl, gan iddi beidio cael ei chynnal un flwyddyn yn y deng mlynedd hynny.
Bendithiwyd ni efo haul eto eleni, a chafwyd gŵyl oedd yn gweddu i'r dim i'r tywydd. Dechreuodd pethau yn y Tap ar y nos Iau, gyda'r ornest flynyddol boblogaidd rhwng y Beirdd a'r Rapwyr. Cafwyd noson hwyliog yng nghwmni'r 'Godrapiwr', Geraint Lovgreen, a rhai o feirdd mwyaf digri, a rapwyr mwyaf talentog, Cymru.

Rocio
Nos Wener gwelwyd un o'r gigs gorau welodd Blaenau erioed, yng Ngwesty'r Frenhines. Noson arbennig i ddathlu deng mlwyddiant y Car Gwyllt oedd hon, efo bandiau o'r ardal, ddoe a heddiw, yn perfformio. Yn ailffurfio'n arbennig ar gyfer y noson oedd Twm Cetyn, a'r Mistecs - a orffennodd y noson efo metal trwm, carlamus a chytgans cofiadwy.

Hefyd yn chwarae oedd y band reggae lleol, Vates, sydd newydd ryddhau eu halbym cyntaf, a'r mawrion lleol, Estella ac Anweledig.

Digon yw dweud fod y dafarn yn orlawn o bobol yn dawnsio a mwynhau. Noson chwyslyd iawn!

Teuluoedd
Dydd Sadwrn cafwyd llu o ddigwyddiadau i deuluoedd a phlant ar faes parcio Diffwys, gyda chastell bownsio, gweithdai syrcas a drymio batala - a chyfle euraid i'r plant daflu sbwnjis dŵr tuag at wyneb cyfarwydd o'r ardal, y canwr, ac aelod o Bwyllgor y Car Gwyllt, Ceri C.

Daeth wyneb cyfarwydd arall - yr hogyn lleol, Glyn Wise - ynghyd â'i gyd-gyflwynydd ar Radio Cymru, Magi Dodd, i ddarlledu'n fyw o'r dref am deirawr, hefyd.

Plant mewn gwisgoedd ffansiY Ras Wyllt
Tra'r oedd y gweithgareddau teuluol yn bwrw mlaen b'nawn Sadwrn roedd Y 'Ras Wyllt' unigryw yn arwain ffans cerddoriaeth o dafarn i dafarn i wrando ar setiau gan rai o fandiau gorau Cymru. Dechreuwyd yn y Tap am hanner dydd, efo'r arwr lleol, Gai Toms, yn canu i dafarn lawn. Arweinwyd y dorf o'r Tap i'r Cwm gan ddrymwyr batala a morladron ar stilts, ac yno, yn y Cwm, cafwyd set wych gan y band poblogaidd o Benrhyndeudraeth, Gola Ola.

Ymlaen o'r Cwm i'r Cwîns, lle bu Plant Duw yn perfformio'u caneuon bywiog a chyffrous, ac wedyn y Sibrydion yn perfformio hen ffefrynnau, ynghyd â chaneuon oddi ar eu halbym newydd. Fel y Cwm a'r Tap yn gynharach, roedd y lle yn orlawn ac yn boeth, a phawb yn mwynhau miwsig gwirioneddol wych.

Draw i'r Meirion, ac yma'r oedd un o fandiau mwyaf cyffrous y sîn Gymraeg - y Rei o ardal Port a Phenrhyn, gyda'u fusion o wahanol fathau o roc yn crynu'r dafarn orlawn at ei seiliau.

Gorlawn eto oedd y Manod, wrth i Bob, band ifanc o Ben Llŷn a'u pync tynn, trydanol, roi perfformiad cofiadwy dros ben i'r rhai oedd yn ddigon lwcus i allu ffitio i mewn i'r dafarn.

Ac yna i ardd gwrw y Wynnes, a'r lle yn orlawn eto eleni - a Greg a Jackie druan ond newydd gymryd y dafarn drosodd ers deuddydd! Sôn am gymryd y plunge wrth dorri ias (pob lwc i chi yn y dafarn, gyda llaw)! Llan Clan, band sydd a dyfodol disglair o'u blaenau, o Lan Ffestiniog, oedd yn agor pethau ar y llwyfan, ac i'w dilyn nhw, cafwyd set hir-ddisgwyliedig yn Stiniog gan Gwibdaith Hen Fran, band lleol sydd â'u seren yn codi'n uchel drwy ffurfafen y sîn Gymraeg ar y funud (ac sydd newydd ryddhau albym).

Hiwmor a Thalent
Wedi dawnsio a chwerthin efo caneuon hwyliog hogia Gwibdaith, roedd hi'n amser ar gyfer y gig mawr ar y llwyfan tu allan y Cwb Rygbi. Wedi i Cofi Bach a Tew Shady orfod tynnu allan oherwydd salwch, neidiodd Annioddefol i mewn i agor y noson efo caneuon bywiog oddi ar eu halbwm newydd hwythau. Ac i'w dilyn cafwyd set hynod gan Pwsi Meri Mew, cyn croesawu'r enwog Llwybr Llaethog (ill dau yn hogia o'r ardal) i'r llwyfan am dri chwarter awr o fiwsig dawns, hip-hop a dub.

Roedd hi'n amser wedyn am uchafbwynt y noson - y band byw gorau yng Nghymru ar hyn o bryd, Genod Droog. Dyma i chi be oedd sioe - efo'u miwsig pwerus a'u dau rapiwr hip-hop egniol, Ed Holden (Mr Phormula) a Nei Karadog' (Nine Tonne). Doedd dim posib peidio dawnsio i berfformiad mor rymus, a ddiweddodd efo fersiwn arbennig o'r gân enwog 'Jump Around', gan y rapwyr Gwyddelig o Efrog Newydd, House of Pain.

Diwrnod a noson i'w cofio, felly, a channoedd wedi dod allan i fwynhau, yn cynnwys pobl oedd yn dod i'r Blaenau am y tro cyntaf - a hefyd criw selog o Ben Llŷn oedd yn dod yma am y drydedd flwyddyn yn olynol. Da o beth ydi hynny. Mae'n grêt i weld pobl yn dod i'r dref i fwynhau, ac i brofi'r croeso cynnes, unigryw, anffurfiol a gwerinol sydd yn y dref.

Dydd Sul
Ni orffennodd pethau nos Sadwrn, chwaith. Cafwyd y gem rygbi arferol rhwng Hogia Bro a Merched Bro eto ar y pnawn dydd Sul. A diolch i Fenter y Moelwyn a Cyfle Ffestiniog, cafwyd marchnad gymunedol o flaen Neuadd y Farchnad, ble y chwaraeodd Annioddefol set acwstig i'r siopwyr, a chyngerdd yn Eglwys Dewi Sant yn y nos.

Diolch
Gŵyl lwyddiannus, felly - yr orau erioed o bosib. Dymuna Bwyllgor Car Gwyllt ddiolch i'r canlynol am eu nawdd, cyfraniad, cydweithrediad a chefnogaeth i'r ŵyl: British Nuclear Group Trawsfynydd, Blaenau Plastics, Arlunio Gareth Parry, Ceudyllau Llechi Llechwedd, Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, E Hughes Haulage, Academi, Cymunedau'n Gyntaf, Menter y Moelwyn, Cyfle Ffestiniog, Gringo Design, Huws Gray, Gwallgofiaid Cyf, Portmeirion, Clwb Ieuenctid Blaenau Ffestiniog, Y Tap, Y Cwm, Queens, Y Meirion, Y Manod, Arfbais Wynnes, Bwyty Tan y Graig, Stiniog.com, Y Siop Werdd, Eifion Stores, JH Roberts, Bistro Moelwyn, Radio Cymru, a phob siop, busnes ac unigolyn a gyfrannodd tuag at yr ocsiwn, ras deircoes a gem peldroed codi arian. Diolch hefyd i'r bandiau lleol a berfformiodd am ddim i'r ŵyl eto eleni (ac os dwi di anghofio rhywun uchod, dwi'n sori!)

Ysbyty Goffa Cofiwch, mi fydd Gŵyl Car Gwyllt yn rhoi rhodd o £300 i Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog, allan o weithgareddau codi arian Y Ras Deircoes a'r Ocsiwn a gynhaliwyd ym mis Mai.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy