Erbyn heddiw, mae hynny wedi digwydd ac mae pobol Llan yn ofni y bydd y lle'n diodde'r un dynged a'r Abbey Arms, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddymchwel. Am y rheswm hwnnw, fe ddaeth nifer o bentrefwyr ynghyd i drafod y posibilrwydd o brynu'r lle a'i redeg fel gwesty neu dafarn gydweithredol. Mae tafarn wedi bod yno ers dau gan mlynedd a mwy. Yr Efail oedd yr enw gwreiddiol arni ond rywbryd ym rnlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd gwraig o'r enw Martha Owen yn cadw'r lle, fe'i hailenwyd yn Pengwern Arms Hotel.
Bryd hynny, roedd dwy dafarn arall hefyd yn y pentre, sef Tŷ Isaf (Newborough Arms yn ddiweddarach) a'r Tŷ Ucha (neu'r Eagles Inn). Yn ôl pob sôn, roedd y lle yn hynod o boblogaidd a bob haf byddai llu o ymwelwyr o bell ac agos yn dod yma i aros. Fe barhaodd y poblogrwydd hwnnw tan yn gymharol ddiweddar, nes i'r gwesty fynd i ddwylo perchnogion estron nad oedd yn dangos llawer o ddiddordeb yn y busnes. Ond rŵan mae nifer o bobol leol yn ystyried y posibilrwydd o allu prynu'r gwesty a'i droi'n gyrchfan boblogaidd unwaith eto, i bobol leol ac ymwelwyr. Cafwyd cyfarfod yn y Pengwern ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw penderfynwyd ffurfio cwmni cymunedol gyda'r aelodau'n talu punt y pen i ymuno.
Mae pwyllgor llywio wedi ei ethol gyda Linda Wyn Jones yn lywydd, Mel Goch yn gadeirydd a Bini Jones yn is-gadeirydd. Bwriedir sefydlu gwefan ac fe gynhelir cyfarfodydd bob nos Fercher am 8 o'r gloch yn nhŷ Saron neu yn y Caban i drafod datblygiadau. Gwahoddir sylwadau a syniadau, a gellir cysylltu a'r grŵp ar 01766 762401.
Mae ffurflenni ymaelodi ar gael yn swyddfa bost Llan, siop Pen Bryn ac yn Nhŷ Saron.
 |