Perchennog y siop oedd Mrs Davies a feddai ar ddawn arbennig o gynnwys dillad o bob math a chwaeth ddeniadol a ffasiynol dros ben - sef dillad babanod, ffrogiau sidan Macclesfield a dillad isaf o sidan 'will o the wisp', gyda'r lliwiau delaf o0 wyrdd golau, glas golau, pine, hufen a gwyn. 'Doedd llawer o les, ond caem frodwaith hyfryd a deunydd sidan a deimlai yn chwaethus iawn - atgof sydd yn deimlad byw ar flaen fy mysedd hyd heddiw.
Doedd dim sôn am fag plastig - deuai'r dillad isaf wedi eu lapio'n ofalus fesul un mewn papur tisw a'u gosod yn ddestlus mewn boscus pwrpasol. Roedd dwy ohonom yn gweithio i Mrs Davies yn y Waverley, a'r ddwy ohonom yn berchen ar yr un enw sef Dilys.
Adwaenid fy ffrind yn 'Miss Rob' a minnau'n Dilisha!
Byddem yn arfer modelu'r cotiau 'Marlbeck' gan fod ein taldra yn gweddu'r mesuriadau angenrheidiol i'r dim, gyda 'Miss Rob' yn modelu'r cotiau byrion a minnau'n modelu'r rhai hirion.
Dilys oedd yn gwerthu'r corsets a minnau'n gwerthu'r hetiau.
Ar achlysuron profedigaeth, arferem gario bocsys o ddillad angladdol yn cynnwys amrywiaeth eang, yn ogystal â hancesi a hetiau, i arddangos i'r teuluoedd anffodus, a byddem yn ceisio rhoi cymorth iddynt gyda'u dewis.
Bob bore Llun byddai Dil a minnau'n gwahanu i wahanol dai i gasglu arian 'Clwb', gwasanaeth pwysig iawn yn y dyddiau hynny. Cerdyn plastig yw'r drefn heddiw!
Caem brynu unrhyw ddilledyn o'r siop am bris gostynedig - ond ni allem fforddio rhyw lawer.
Ychydig iawn o gyflog a gaem yn ystod ein blwyddyn gyntaf - hanner coron yr wythnos (12c heddiw), ac yna cawsom godiad cyflog i bum swllt (25c) yn y flwyddyn ddilynol.
Pob Nadolig, caem anrheg o'r siop gan Mrs Davies, sef dewis un wisg, wedi i'r cwsmeriaid olaf adael cyn cau'r siop dros yr Wŷl.
Fy newis arferol i oedd un o'r peisiau hyfryd a edmygwn cymiaint. Yn drist iawn, bu farw Mrs Davies wedi i ni adael ac 'roedd wedi dioddef o afiechyd blin.
Erbyn heddiw, mae Dilys a minnau mewn cartrefi, a braf iawn yw meddwl am yr hen ddyddiau fel rhai hapus dros ben, a chawn lawer o bleser yn hel atgofion melys o'r dyddiau unigryw yn y Waverley.
Dilys Rushen