| Fe'i tynnwyd
yng ngorsaf reilffordd y Blaenau tua diwedd yr 1920au, wrth i gyfeillion ffarwelio a charfan o ddynion o'r ardal oedd ar fin cychwyn ar antur fawr i weithio yn un o chwareli llechi
Awstralia. Yn sefyll yn y cefn gyda'i het yn ei
law, mae Moss Wyatt, tad fy ngwraig. Yn nhreigliad y blynyddoedd, aeth hanes yr
alltudio hwn yn angof, a hoffwn wybod a oes
rhywun yn gwybod am yr achlysur, yn adnabod yr wynebau, ac a oes yma
gysylltiadau teuluol ar ôl. Byddwn yn dra diolchgar am unrhyw wybodaeth. e-bostio vivpw@tiscali.co.uk Diolch yn fawr, Vivian Parry Williams vivpw@tiscali.co.uk
 |