A gofiwch chi heth mawr 1962? Fe barhaodd y rhew a'r eira yn y Blaenau am fisoedd. Y flwyddyn honno yr oeddwn i'n fyfyriwr ym Mangor. Bob Sadwrn deuwn adref ar y bys trwy Gaernarfon a'r Port, taith ddwy awr drwy'r eira, a minnau'n hepian wrth i'r bys droi i fynd trwy Garndolbenmaen a Golan!
Yr oeddwn i'n dilyn cwrs diploma mewn ieithyddiaeth yng Ngholeg y Gogledd. Pwnc newydd sbon ydoedd, a minnau'n un o chwe myfyriwr ar y cwrs. Yr Athro Frank Palmer a thri darlithydd arall oedd y staff, gydag un technegwr (Francis Jones o Faesgeirchen).
Cartref yr adran fechan oedd un hanner o'r Fron, ty a safai ger y Gilgant, uwchlaw gardd fawr terasog heb fod ymhell o'r Coleg ym Mangor Uchaf. Gynt meddygfa a fuasai i'r Dr Lancaster a'i wraig, hithau'n feddyg anhwylderau'r croen. Buasai hi farw ryw ddeunaw mis ynghynt ac roedd y Dr Lancaster yn dal i fyw yn hanner arall y ty.
Gan fod cyn lleied ohonom, buan y daeth pawb i 'nabod ei gilydd, a daethom yn ymwybodol o gryn anniddigrwydd ymhlith y staff. Gan fy nhiwtor, Alan Thomas (bellach y cyn-athro Alan Thomas), clywais y byddai ambell fyfyriwr yn holi: pwy oedd y wraig ddieithr, mewn cot wen laes, a welid weithiau'n cerdded i fyny'r grisiau neu'n sefyll ar ben y grisiau? Ai aelod o'r staff? 'Technegydd? Nid oedd yn gyfarwydd i neb, ond roedd y disgrifiadau yn cyd-fynd â disgrifiad o'r ddiweddar Mrs Lancaster.
Yr oedd hi'n ddrwgenwog, meddai cymdoges iddi, Miss Dilys Jones, wrthyf, am ei dull atgas gyda'i chleifion, yn enwedig gyda merched. Pa un bynnag, credai'r staff bod merched yn y ty a barai iddi ymddangos ac aflonyddu ar y ty trwy wneud twrw. Clywyd oglau fel oglau syrgeri gynt - oglau ether-meth, am a wn i - oedd yr arwydd ei bod ar fin ymddangos neu godi stwr.
Ar ddiwedd un prynhawn o aeaf, a hithau'n tywyllu, yr oedd un darlithydd yn gweithio yn ei swyddfa ar y llawr isaf. Aethai pawb arall adref. Yn sydyn clywodd dwrw o'r ystafell ddosbarth y drws nesaf iddo - swn caeadau'r desgiau yn cael eu clepian y naill ar ôl y llall. Myfyrwyr gythraul!' meddai wrtho'i hun a rhuthro yno i'w ramdamio. Ond nid oedd neb yno, a phopeth yn llonydd.
Dro arall, yr oedd darlithydd oedd wedi ymneilltuo i'r ty bach ar ben y grisiau. Clywodd swn rhywun yn troedio i fyny'r grisiau ac yn stopio o flaen y drws. Galwodd "Pwy sy' 'na?" - dim ateb: na swn neb yn mynd i lawr yn ôl. Erbyn agor y drws, nid oedd neb yno.
Yr oedd y ty, rhaid cyfaddef, yn gallu bod yn lle annifyr braidd ar ddiwedd prynhawn o aeaf, wrth iddi dywyllu, ond ni fu imi weld na chlywed dim allan o'r cyffredin. Erbyn hyn, chwalwyd y Fron ac ni ddaeth dim o fwriad y coleg i adeiladu ar ei safle.
Stori arall yn codi ias
Adroddid stori arswydus arall gan fyfyrwyr, ynghylch y 'Lookout', heibio tro Siliwen ar y ffordd i Sir Fôn o Fangor Uchaf. Un noson dywyll o aeaf aeth myfyriwr i'r safle bysiau i ddal ei fws adref. Safai rhywun yno mewn cot neu wisg laes dywyll a mwgwd am ei ben. Ni ddywedai air. Teimlai'r myfyriwr yn annifyr braidd, a gwnaeth ryw sylw i gychwyn sgwrs. Troes y llall yn araf a dangos ... dim ond hanner wyneb, neu ddim wyneb o gwbl - dim ond twll gwag. Ffodd y myfyriwr dan sgrechian.
Cawsai rhywun ei anafu'n ddychrynllyd a'i ladd yn y fan honno flwyddyn ynghynt, neu dyna a honnid. Fel y digwydd gyda sawl chwedl o'r fath, ni fu modd cael enw'r un a welodd hyn, nac enw'r un a laddwyd. Er hynny, gwir ai peidio, am flynyddoedd codai'r stori arswyd arnaf pe digwyddai imi orfod mynd heibio'r 'Lookout' wedi iddi dywyllu.
A oes gennych chi hanes ysbryd, yn enwedig yn ardal Ffestiniog? Rhannwch y stori gyda darllenwyr Llafar Bro, neu cysylltwch â safle BBC Cymru'r Byd.
Dr Bruce Griffiths