BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Dennis and the Nighthawks a newidiodd ei enw i New MajesticY New Majestic
Ionawr 2007
Atgofion y diweddar Bob Gwynant (gyda diolch i Alan ei fab) am sefydlu band dawns y New Majestic.
"Pan oeddwn yn chwarae gyda'r Oakeley, tua diwedd y dauddegau oedd hi, byddai tan mawr ym mhob pen o'r bandroom, ac ar ôl bob ymarfer, arhosai saith neu wyth o'r bechgyn ifanc ar ôl, yn sefyll o flaen y tân, ac yn sgwrsio.

Roeddwn wedi cymeryd diddordeb mewn cerddoriaeth dawns, ac wedi clywed bandiau fel ' 'Ambrose', 'Lew Stone' ac eraill ar y wireless. Un noson, roeddwn wedi cael gafael ar lyfr o ganeuon poblogaidd, a dechreuais chwarae un neu ddwy ar y cornet. Dyma Dennis, oedd ar y 'baritone' yn dechrau chwarae'r nodau man, a chreu deuawd. Aeth Edgar Daniels (oedd yn chwarae trombôn yn y band) adra i nol ei fanjo, ac mewn ychydig o amser, roedd gennym ein dance band ein hunain.

Yn y dyddiau hynny, trefnid gweithgareddau i godi arian at gynnal yr Ysbyty Coffa ac roedd Mary, fy chwaer, wedi trefnu dawns yn neuadd Sefydliad y Merched ac wedi llogi band y "Rhuddlan Symphonions", ond wythnos cyn y ddawns cafodd glywed na allent ddod oherwydd bod rhai o aelodau'r grŵp yn diodde o'r ffliw. Er bod nifer dda o fandiau dawns yng Ngogledd Cymru ar y pryd, doedd yr un ohonynt ar gael at y noson ac felly cynigiais lenwi'r bwlch gyda'n band ni, sef Tom Griffith o Lord Street ar y clarinet, Dick Glyn Myfyr ar y Banjo, Edgar Daniels ar y piano, a Robin Roberts ar y violin, Dennis a finnau ar y bariton a'r cornet. Cafodd Len Hughes fenthyg set o ddrymiau, a dyma fynd ati i ymarfer.

Bob Gwynant yn 1936 Cafwyd ystafell yn y Railway Inn (lle mae swyddfa'r post heddiw) ac ymarfer bob nos, ond yn anffodus, er yr holl baratoi, of er oedd y cwbl gan i'r heddlu wrthwynebu'r ddawns gan nad oedd y lle'n ddiogel dan reolau tân.

Ar ôl hyn, penderfynais ffurfio seindorf dawns go iawn, ac roedd yr hogia yn cydweld, felly dyma ofyn i nhad fod yn 'guarantor', ynghyd a thad Dennis, a Mrs Holland (Saesnes oedd yn cadw siop tsips ar y Fflags) er mwyn benthyg £60 gan Fanc Barclays. Gallasom wedyn brynu string bas, set o ddrymiau, alto saxophone a dau drwmped shop soiled am £7 yr un.

Cyflogwyd Burtons yn Llandudno i wneud 'dress suits' i ni, yn costio £2 yr un. Roeddem yn llygadu'r dawnsfeydd mawr oedd yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru ar y pryd, fel y Hunt Ball, Police Ball ac yn y blaen.

Cyn i ni ddechrau chwarae yn y dawnsfeydd mawr, aethom ati i drefnu dawns ein hunain yn neuadd bentref Llan ac roedd honno'n llwyddiant mawr. Yna, dechreusom chwarae bob nos Sadwrn yn y 'Century Club' £1 oedd y ffi y band a châi'r arian hwnnw ei wario bob wythnos ar gerddoriaeth newydd.

Roeddem i gyd yn awyddus i symud ymlaen, a gofynnais i Dennis arwain y band, gan ei fod yn ddawnsiwr da ei hun ac wedi cael peth addysg ar gerddoriaeth dawns.

Penderfynwyd cynnal dawns yn Nolgarrog ¬oedd yn cael ei gydnabod ar y pryd fel y prif le am ddawnsfeydd yng Ngogledd Cymru. Penodwyd Glyn Myfyr fel ysgrifennydd, a finnau fel trysorydd.

Roedd y ddawns yn llwyddiant mawr, a gwnaethon elw da ar y noson. Yn well byth, dechreusom gael ceisiadau i chwarae mewn llefydd eraill. Tynnwyd llun o'r band yn y 'dress suits', ar y llwyfan ym Mhenrhyndeudraeth, ac argraffwyd mi1 o daflenni gyda'r llun a thipyn o hanes y band arnynt. Gofynnodd Burtons am gopi o'r llun, i'w chwyddo'n fawr a'i arddangos yn ffenast eu siop ym Llandudno.

Erbyn hyn, roeddem yn gwneud digon o arian i allu talu'r benthyciad yn ôl i'r banc a gwneud tipyn o arian poced yn ogystal. Fel y 'Nighthawks' y caem ein hadnabod ar y cychwyn ond mewn cyngerdd yn Port awgrymwyd y dylem newid yr enw i rywbeth mwy mawreddog. Gan fod band o'r enw Majestic yn bod yn barod, penderfynsom alw ein hunain yn New Majestic.

Yr adeg honno, roedd y Daily Herald yn rhedeg cystadleuaeth i enwi'r deg can fwyaf poblogaidd o'r ugain oedd yn cael eu rhestru yn y papur, a chafodd y New Majestic ei enwi yn y papur fel band a fyddai'n chwarae'r ugain cân yn y Central Hall yn y Blaenau. Anfonwyd cant o bosteri i ni eu dosbarthu yn siopau Gogledd Cymru.

Roedd gwneuthurwyr a masnachwyr offerynnau Lloegr yn anfon offerynnau atom ¬- trwmpedau a saxaphones, er mwyn i ni eu chwarae. Mae'n rhaid eu bod nhw'n meddwl ein bod ni o'r un safon a bandiau mawr Lloegr. Yn anffodus, roedd yn rhaid eu hanfon yn ôl ar ôl eu chwarae am dipyn.

Yn y cyfnod hwnnw, tra'n dal i chwarae gyda'r Oake1ey, roeddwn hefyd yn chwarae mewn quartet - Huw Morgan William a fi ar y cornet, Wil John Solo Horn, a Johnny Roberts (Shine) ar yr euphonium, ond ni fu'r quartet yn cystad1u o gwbl.

I fynd yn ôl at y band dawns - cyn hir digwyddodd yr hyn roeddwn i'n ei ofni fwyaf, sef band yr Oake1ey a'r New Majestic yn chwarae ar yr un noson. Yr Oake1ey yn chwarae mewn cyngerdd yn Aberdyfi, a'r band dawns yn chwarae mewn neuadd arall yn yr un dref. Doedd dim i'w wneud ond aros am yr egwyl, a sleifio allan yn ddistaw, tynnu'r iwnifform a newid i'r dress suits a chwarae tan hanner nos.

Digwyddodd yr un peth wedi hynny hefyd, ym Mhorthmadog ac ym Mhwllheli, ac roedd W. J. Owen yn ddig iawn ac yn ei deud-hi'n hallt. Doedd dim i'w wneud felly ond rhoi'r gorau i seindorf yr Oake1ey, ac felly y bu.

Roedd tri ohonom yn gweithio yn Rhiwbach, Dennis a Len, ein drymar, a finna. Un bore braf yn yr haf, roeddem yn dod i fyny'r inclen, ein tri, wedi bod yn chwarae yn Nefyn y noson cynt. Roeddem mewn da bryd at ein gwaith, gyda rhai o'r gweithwyr y tu ôl i ni, ond dyma Owen Thomas yn sefyll ar y brig ac yn dweud:

'Gwell i chi drïo dod yma mewn pryd bore fory. Cerwch yn ôl'

Ac i lawr â ni, gan fynd heibio'r dynion oedd yn dod i fyny. Aethom i Lyn Fflags i nofio tan hanner dydd.

Bore wedyn, roeddwn wrthi'n naddu pan ddaeth Owen Thomas ataf, i ofyn 'Ydi o'n wir eich bod chi wedi rhoi gorau i'r band?'

'Ydi,' meddwn i.

'Wyt ti wedi rhoi llythyr i'r pwyllgor?'

'Do.'

'Wyt ti wedi rhoi dy gornet a dy iniwfform yn ôl?'

'Do.'

'Reit!' meddai. "Mi wna i o'r gorau â chdi rwan.'

Pedwar o' r gloch nos Wener yr wythnos honno, 'Hwda, dyma ti bresant!' medda fo, a rhoi fy nghardiau imi, ac i Dennis hefyd.

Felly oedden ni'n dau wedi cael y sac ond cafodd Len aros oherwydd doedd o ddim yn aelod o'r Oakeley. "

(I'w barhau yn y rhifyn nesaf Llafar bro)


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy