BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Chwaraewyr billiards Clwb Pont Cwîns tua 1948 (Diolch i Mrs Renee Preston)Y 'Lle Billiards'
Rhagfyr 2006
Gwell hwyr nac hwyrach, ond diolch i Mrs. Renee Preston am y llun o chwaraewyr 'billiards' Clwb Pont Cwins - 'Lle Billiards' i mi - yn Llafar Bro, mis Hydref.
Llun sydd wedi creu atgofion melys iawn am y cyfnod yrna yn 'Stiniog.

Cymerodd fy nhad, George 'Cornel' Roberts, berchenogaeth 'Lle Billiards' yn fuan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd pan symudodd Wil Parry, y cyn berchennog, o'r ardal i gadw gwesty yn Weston-Super-Mare.

Mi 'roedd amryw o glwbiau preifat i chwara' 'billiards' yn y dre' pryd hynny, ar rheini yn cynnwys y 'British Legion', y Y.M.I., y 'Guild' a'r hen ysgol yn Tan-y-grisia', ond 'Lle Billiards' oedd yr unig neuadd gyhoeddus, gyda chwe' bwrdd, 'ble all unrhyw un fynd am gêm o 'filliards' neu 'snooker' chwe' diwrnod yr wythnos - a'r pris am hanner awr o 'filliards' neu 'set' o beli 'snooker' wedi codi i chwe' cheiniog, mewn hen arian, pan ddaeth 'Lle Billiards' o dan berchenogaeth fy ewythr, John Richard Jones, tuag at ddechrau'r chwe' degau.

Mae gen i gof fod y gêm 'billiards' yn llawn mwy poblogaidd na 'snooker' yn 'Lle Billiards' pryd hynny oblegid yr oeddem yn siŵr o hanner awr o 'filliards' ar y bwrdd, pan fydda'r chwaraewyr gora' yn clirio 'set' o beli 'snooker' mewn dipyn llai o arnser!

Lle prysur iawn, yn enwedig ar nos Wener a dydd Sadwrn, pan yn aml oedd rhaid ciwio am fwrdd cyn cael y cyfle i giwio ar y bwrdd! 'N awr, gyda phoblogrwydd 'snooker', yn gyntaf drwy 'Pot Black' ac yn fwy diweddar drwy'r holl gystadlaethau eraill sydd ar y teledu, reit siwr mi fasa'r hen neuadd yn orlawn a'r ciw yn ymestyn i lawr Pont Cwins!

Colled fawr nad oes y fath safle ar gael yn yr ardal erbyn heddiw.

Yr oedd yna gystadleuaeth gryf rhwng y gwahanol glwbiau yn yr ardal ac mae gen i gof am yr un ar unig Joe Davies yn dwad fel gŵr gwadd i un noson anrhegiad yn y 'Queen's Hotel'.

Ond yn ôl at y llun gan Renee Preston a cheisio 'enwi'r lleill' iddi ...

'Rwy'n 'nabod y gwynebau i gyd, ond wedi hanner can rnlynedd reit dda fynd heibio, gallwn ond enwi tri ohonynt yn fy yrnlyniad (tebyg i chdi, wedi clodfori 'Lle Billiards' yn 'Ar Lechan Lân', fedru enwi'r tri arall i Renee!) sef:

Cyril 'Bach' ... Davies?
Yn ogystal â chwarae 'billiards' a 'snooker' mi roedd Cyril yn beldroediwr go dda hefyd, fel asgellwr dde yn nhîm pêl-droed y dre'. Tybed iddo golli ei le yn y tîm pan ddaeth y ddiweddar Bryn Lloyd Jones yn athro PT i'r hogia' yn Ysgol County?

Frank Evans, 39 Lord Street
Mab Wil 'Barbar', a brawd Alf 'Barbar' ac Arthur Evans (St.John's Ambulance)

Cyril 'Bara'
Mae genni gof a Cyril fel pobydd ac yn ei gofio yn gweithio i Edward (Ted) Thomas, tad yr Athro Gwyn Thomas, yn yr hen fecws yng nhefn Newborough (Wesla) Street pan 'r oeddym ni yn byw yn 'Hope Villa' ar ddechrau'r pum degau.

Bu Frank a Cyril 'Bara' yn gweithio i fy nhad yn 'Lle Billiards' - Frank fel rheolwr am flynyddoedd lawer, gyda Cyril 'Bara' yn un o'r hogia' fydda'n helpu rhedeg petha', yn y prynhawn ac ar fin nos, gydag amryw eraill, a rheini yn cynnwys Dafydd (Dei) Williarns (Tanrallt), lfor Talywaenydd a Jac Griffiths (Glanypwll), heb sôn fy nhaid.

Hefyd, 'rwy'n siŵr fod Frank Roberts (Frank Siop Sgota yn llun Mrs. E. Evans, Ivy House yn Llafar Bro, mis Tachwedd ) yn un arall a fu'n cwffio am ei le yn tîm 'billiards' Clwb Pont Cwins tua'r un amser!

Cofion gora'

Len


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy