| Dyna oedd dyfarniad tîm annibynnol o arolygwyr ar ran Estyn yn ddiweddar wrth ddyfarnu
saith Gradd Un i'r Ysgol am bob agwedd o'r gwaith. 'Fe'i harweinir yn eithriadol o dda ac
mae'n darparu addysg sydd o ansawdd uchel iawn' meddai'r tîm o arolygwyr a arweiniwyd
gan Terry Lynn Williams yn ystod mis Chwefror 2009. Meddai'r Pennaeth, Mrs Carys E Jones, 'Rwyf yn hapus dros ben fod barn ddiduedd ar y safonau dysgu ac addysgu a'r holl agweddau eraill sy'n rhan o ethos, gweinyddiad a rheolaeth yr ysgol, wedi cadarnhau ein hunan arfarniad
ar y safonau o fewn yr ysgol. Rydym bob amser yn anelu i ddarparu'r addysg orau i bob
unigolyn gan gynnig profiadau cyfoethog, eang a heriol i'w datblygu'n gymeriadau
dwyieithog, hyderus a chrwn, a hynny mewn awyrgylch llawn gofal.' Roedd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Dylan Richards, yn hynod falch o'r adroddiad
ardderchog. Meddai:
'Roeddwn i'n gwybod ei bod hi'n ysgol dda, yn ysgol gwerth chweil a dweud y gwir, ond
mae'n wych i gael arbenigwyr o'r tu allan yn cadarnhau'n barn ni. "Rwyf yn arbennig o falch o weld yr ysgol yn cael ei disgrifio fel un ag ethos teulu oll le mae'r pennaeth, yr athrawon a'r staff cynnal yn adnabod y disgyblion yn arbennig o dda ac yn darparu gradd ragorol o gymorth personol ac arweiniad ar eu cyfer. Hoffwn ddiolch i holl staff yr ysgol, y tîm cyfan, gan gynnwys y Llywodraethwyr a'r rhieni, am eu hymroddiad i'r plant ac i roi safon uchel o ddysg
yn y Manod.' Mae 82 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol ac fe'u haddysgir gan 4.5 o athrawon. Daw 63% o'r plant o gartrefi lle siaredir y Gymraeg.
 |