Noson yn llawn atgofion, doniolwch, canmoliaeth, a noson o deyrngedau i wrthrych y noson sef awdur y llyfr, y diweddar Emrys Evans, Tyddyn Gwyn, Manod. Blwyddyn union yn ôl roedd tudalen flaen rhifyn Rhagfyr (2008) i 'Lafar Bro' yn cyhoeddi gwerthfawrogiad ardal o'r holl gymwynasau a gyflawnodd i'w fro yn ystod ei fywyd hir ac yn dangos pa mor annwyl yr oedd yng ngolwg trigolion ei fro.
Ychydig cyn ei farwolaeth disymwth ym mis Tachwedd 2008, trafodwyd y bwriad i gyhoeddi cyfrol ar gyfraniad pwysig a chydnabyddedig Emrys fel genweiriwr ac fel cawiwr plu pysgota ... yn wir mae ei waith fel cawiwr yn gydnabyddedig o fewn y byd pysgota ac roedd presenoldeb a theyrnged Moc Morgan, bellach o Aberystwyth, cyn ysgrifennydd Cymdeithas Genweirwyr Eog a Brithyll Cymru a rheolwr y prif dim pysgota cenedlaethol, ynghyd a wyneb cyfarwydd y byd genweirio yng Nghymru ers blynyddoedd, yn dweud llawer am ddylanwad Emrys yn y maes hwn.
Mae Moc Morgan yn storïwr heb ei ail, fel pob pysgotwr da siŵr o fod, a bu chwerthin lond y neuadd tra y bu wrthi.
Roedd Neuadd y W.I. (neu festri hen Gapel Maenofferen ar lafar!) yn llawn ac roedd y gynulleidfa fel Who's Who o enweirwyr
pybyr yr ardal.
Daeth tua 120 ynghyd ac roedd hynny ynddo'i hun yn gydnabyddiaeth deilwng.
Cadeiriwyd y noson yn hwylus ac effeithiol gan Vivian Parry Williams, Ysgrifennydd 'LIafar Bro', ac roedd y papur hwn yn noddi'r gyfrol hon ar y cyd a Chymdeithas Enweiriol y Cambrian.
Cafwyd teyrnged gan Mel Goch ap Meirion ar ran Cymdeithas Enweiriol y
Cambrian ac yn dilyn daeth Steffan ab Owain i dalu teyrnged fel ffrind i Emrys ond nid fel genweiri prysurodd i ychwanegu.
Yn bresennol roedd teulu Emrys, sef Marian a Gwennan, ei ddwy ferch a'u gwyr hwythau, Dafydd a Gareth, ynghyd a'r plant.
Gareth ei fab yng nghyfraith, fu bennaf gyfrifol am y llun trawiadol o'r plu 'sgota sydd yn y llyfr, a dalodd deyrnged bellach i Emrys, y diolchiadau a hefyd darllenodd bwt o'r llyfr ei hun fel sy'n gweddu i bob lansiad.
Diolchwyd i Geraint Vaughan Jones am waith, nid yn unig fel golygydd y gyfrol ond hefyd am ei waith cynhwysfawr yn arolygu'r gyfrol trwy'r wasg.
Gwerthwyd nifer fawr o'r cyfrolau ar y nos wrth gwrs ac roedd hynny ynddo'i hun yn golygu cadw trefn ar y dorf a ddisgynnodd ar y bwrdd gwerthu ar ddiwedd y noson ond chafodd neb niwed ac roedd digon o lyfrau i bawb!
O'r llawr cododd Eric Twm (Eric Thomas) ar ei draed, hen ffrind i Emrys, cyd enweiriwr a chyd droediwr y llwybrau at lynnoedd y fro.
Ond nid genweiriwr y siaradodd y tro hwn ond fel ffrind Emrys a gwerthfawrogwyd ei gyfraniad yn fawr.
Pob lwc i Eric ar ôl y driniaeth ddiweddar mae wedi dderbyn yn yr ysbyty.
Ar ddiwedd y noson roedd merched y W.I. wedi darparu te bach gwych.
Cafwyd oedi dros baned chyfle i drafod mwy a gwrando ar ambell i stori arall
Roedd hon yn noson emosiynol, yn noson
hwyliog, yn noson dda ac yn wir roedd yn noson hanesyddol yn hanes Stiniog.
Er na welwn eto gyfraniadau Emrys o dan Sgotwrs Stiniog ar dudalen gefn 'LIafar Bro' mae'r gyfrol hon yn deyrnged wych
iddo fel genweiriwr, cawiwr ac yn wir fel ysgogwr ei hoff faes.
Tecwyn Vaughan Jones