Roedd hefyd yn dathliad hanner can mlynedd o addysg uwchradd Gymraeg. Roedd y theatr enfawr, sy'n dal 1,000 o bobl, yn llawn a phawb wedi ymgynnull yn llawn hwyliau i fwynhau'r wledd gerddorol, a chawson nhw mo'u siomi. Diddanwyd y dorf gan gorau o'r ysgol ynghyd â Tara Bethan, Caryl Parry Jones a'r Band a'r gwefreiddiol Côr CF1 dan arweiniad Eilir Owen Griffiths - sydd wrth gwrs yn gyn ddisgybl o'r ysgol ynghyd â Tara Bethan a Caryl. Roedd dau gyflwynydd medrus y noson, sef Glyn Owens ac Angharad Llwyd hwythau yn gyn ddisgyblion. Noson i'w chofio'n wir a diolch am roi o'u hamser a'u talent ac i bawb ddaeth i'r dathlu. Ysgol Glan Clwyd yn dathlu
 |