Yn ogystal â chynhyrchu'r rhaglen boblogaidd Uned 5, sydd ymlaen bob nos Wener, mae Lisa'n cyflwyno dwy rhaglen fin nos ar C2 Radio Cymru - ac fe fydd mis Chwefror yn fis hynod gyffrous, gyda Lisa'n cael y cyfle i holi Heather Jones, Euros Childs o'r grŵp Gorky's Zygotic Monkey, a chyflwyno noson wobrwyo Roc a Phop Radio Cymru. Mae sesiynau acwstig byw wedi dod yn rhan bwysig o raglen Lisa ar C2. Yn y gorffennol, mae rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru fel Caryl Parry Jones, Mim Twm Llai, Meinir Gwilym, Brigyn, Elin Fflur a Gwyneth Glyn wedi ymweld â'r stiwdio fach ym Mryn Meirion, Bangor, i berfformio'n fyw ar y rhaglen.
Meddai Lisa "Mae'r nosweithiau lle da ni'n cael sesiynau byw gan wahanol artistiaid fel arfer yn rhai cofiadwy. Roedd sesiwn Mim Twm Llai yn un arbennig iawn - roedd y stiwdio'n llawn cerddorion ac offer¬ynnau - yn gymysgedd wych o banjos, gitârs, bongos, a gitâr fas. Ma' na wefr arbennig wrth glywed y grwpiau'n perfformio'n fyw - yn aml ma' nhw'n per¬fformio fersiynau syml iawn o'u hoff ganeuon, ac mae'r awyrgylch yn un clos, cyfeillgar.
"Dwi hefyd yn mwynhau sgwrsio hefo gwahanol aelodau'r bandiau, roedd cael rhoi'r byd yn ei le hefo merch arall o Glwyd - Caryl Parry Jones - yn lot o hwyl, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gael holi Heather Jones ac Euros Childs".
Roedd llais Heather Jones yn un cyfarwydd iawn i lawer oedd yn dilyn y sîn roc Gymraeg yn ei dyddiau cynnar yn y saithdegau a'r wythdegau, ac mae'n wir dweud ei bod yr un mor boblogaidd ac erioed. Mae'n dal i gigio'n aml, ac wedi cyfrannu i CD hynod boblogaidd Alun Tan Lan.
"Mae Heather a Meic Stephens yn amlwg yn ddylanwad mawr ar artistiaid acwstig fel Alun Tan Lan a Gwyneth Glyn, a gan fod Alun a Gwyneth wedi perfformio'n fyw ar y rhaglen yn barod" meddai Lisa "fe fydd yn wych cael artist mor ddylanwadol ar y rhaglen ddechrau mis Chwefror."
Bythefnos ar ôl sesiwn Heather, fe fydd aelod un o'r grwpiau mwyaf dylanwadol ym myd roc Cymru yn ymddangos ar y rhaglen. Fel prif leisydd Gorky's Zygotic Monkeys, mae gan Euros Childs enw am fod yn un o'r cerddorion mwyaf creadigol yng Nghymru. Cafodd lwyddiant yn y siartiau Prydeinig, ac erbyn hyn, mae ar fin cyhoeddi ei albwm cyntaf fel artist unigol.
"Dwi wedi clywed lot o'r caneuon oddi ar yr albwm yn barod" meddai Lisa. "Mae nhw'n wych! Mae'r CD yn ddigon anarferol ac arbrofol ei steil ar adegau, ond mae'n amlwg fod Euros yn gyfansoddwr arbennig iawn."
Ganol mis Chwefror, fe fydd Lisa, yng nghwmni Dafydd Du, yn cyflwyno un o nosweithiau pwysicaf yn y sin roc yng Nghymru - noson Gwobrau RAP, sef noson wobrwyo Roc a Phop BBC Radio Cymru. Ymysg y categorïau: Cyfansoddwr y Flwyddyn; Artist Gwrywaidd y Flwyddyn; Artist Benywaidd y Flwyddyn; a band byw y flwyddyn.
"Mae panel o arbenigwyr yn dewis yr enillwyr" meddai Lisa "felly fe fydd yn ddifyr iawn gweld pa fandiau sydd wedi creu argraff."
Mae posib hefyd i wrandawyr Radio Cymru bleidleisio mewn dau gategori - am 'Fand y Flwyddyn' a 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn' drwy ffonio 08703 500 600, tecstio 07786 20 10 30 neu e-bostio gwobraurap@bbc.co.uk
Sesiwn Heather Jones Chwefror 7fed am 1ly.h.
Gwobrau RAP - Chwefror 20fed am 8y.h.
Sesiwn Euros Childs - Chwefror 21ain am lly.h.
Uned 5 - bob nos Wener ar S4C.