A ddaw rhywun i lenwi'r bwlch? Yn ol y ffigyrau diweddaraf dim ond 37 o weinidogion fydd gan y Presbyteriaid trwy Gymru yn Ionawr 2008 ac mae 17 o'r rhain yn weinidogion rhan amser.
Mae 577 o gapeli a 28,644 o aelodau gan yr enwad ac felly ar gyfartaledd mae un gweinidog i bob 15 o gapeli a 774 0 aelodau. Gyda nifer 0 weinidogion yn nesu at oed ymddeol, a dim ond un ymgeisydd am y weinidogaeth, gwaethygu fydd y sefyllfa.
Darlun tebyg a geir ymysg yr enwadau eraill.
Pwy sy'n poeni?
Nid yw'r wybodaeth uchod o ddiddordeb, mae'n debyg, i fwyafrif o Gymry Cymraeg y dref. Oddeutu 500 o aelodau sydd yn holl gapeli Cymraeg y dref (Ai cyd-ddigwyddiad yw mai rhyw 500 rhifyn yw gwerthiant Y Bigwn bob mis?).
Ar Sul cyffredin rhyw draean o'r aelodau sy'n mynychu oedfa Gymraeg yn y dref, er yn sicr mae eraill yn cefnogi'r capeli yn y pentrefi cyfagos. Gyda nifer mor fechan yn mynychu, a'r nifer yn gostwng bob blwyddyn, pam fod angen cymaint o gapeli?
Baich yr Adeiladau
Mae'r chwe capel Cymraeg sydd ar ol yn Ninbych yn sicr yn faich ar yr aelodau.
Mae pob un angen ei oleuo a'i dwymo yn y gaeaf ac mae angen gwario symiau sylweddol i gynnal yr adeiladau.
Am ba hyd y byddwn yn gallu parhau i gadw'r adeiladau mewn trefn? Mae rhai ohonynt yn adeiladau hardd, ond a ydynt yn addas i'n dibenion ni heddiw?
Mae'n amlwg na allwn gynnal yr holl gapeli am hir iawn eto oni bai fod y trai ar grefydd yn troi'n llanw, ac nid oes fawr o arwyddion fod hynny am ddigwydd.
Onid gwell fyddai dod at ein gilydd dan yr un to? Mae arferiad a thraddodiad yn iawn yn eu lle, ond nid os ydynt yn rhwystr inni symud yn ein blaenau.
Yn yr Herald Gymraeg yn ddiweddar roedd Angharad Tomos yn son fel y bu yn gwrando ar Gwyn Erfyl yn pregethu yn ddiweddar.
Roedd Gwyn Erfyl yn sôn am ei ymweliad a ffermdy Abernodwydd yn Sain Ffagan, ffermdy yr oedd ef yn gyfarwydd iawn ag o pan yn blentyn yn Sir Drefaldwyn.
Roedd yn cofio'r lle yn llawn bywyd a bwrlwm ond bellach marw ydyw: dim tan yn y grat, dim llyfrau ar y bwrdd a dim bywyd yno. Roedd Gwyn Erfyl yn gweld hyn yn debyg i'r hyn yr ydan ni'n ei wneud efo' n crefydd.
Rydan ni'n mynnu cadw'r hen ddodrefn a'n hen ffyrdd, ond mae'r tan a'r bwrlwm wedi hen ddiflannu.
A oes Ateb?
Wrth siarad efo hwn a'r llall am y sefyllfa capeli yn Ninbych, mae'n ymddangos bod yna gefnogaeth i'r cynulleidfaoedd ddod at ei gilydd, o bob enwad.
Y teimlad cyffredinol yw ei bod yn well byw gyda'n gilydd na marw ar wahan. Ychydig iawn sy'n gwybod bellach beth yw' r gwahaniaethau diwinyddol rhwng y gwahanol enwadau, ond rydan ni'n mynnu addoli ar wahân.
Y ffordd ymlaen ydi cael gwared o'r chwe adeilad presennol a chodi un adeilad cynnes, cyfforddus ac amlbwrpas yn eu lle.
Peidio cael blaenoriaid na diaconiaid sy'n eistedd ar wahân fel petaent yn wahanol i bawb arall, ond yn hytrach ethol Pwyllgor Rheoli sy'n gyfrifol am redeg y ganolfan.
Gellid eu hethol am gyfnod penodol o rhyw dair blynedd a gofalu bod pobl o wahanol oedran ar y Pwyllgor. Gellid hefyd wahodd gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r gwaith bugeiliol megis ymweld ag aelodau yn yr ysbyty neu yn eu cartrefi.
Nid oes sicrwydd y byddai hyn yn llwyddo, ond mae gwell siawns gydag adeilad modem, cyfforddus a gwneud defnydd o'r dechnoleg ddiweddaraf yn yr oedfaon a'r cyfarfodydd eraill.
Gorau oll os yw'n bosib dena gweinidog i arwain, ond mae amaf ofn bod raid inni baratoi at yr adeg lle na fydd posib cael hyd i weinidog am bris yn y byd
Beth yw barn darllenwyr Y Bigwn? Oes gennych chi safbwynt gwahanol i'r uchod? Oes yna rywun all roi arweiniad?