| Croesawodd y Parch Jonathan Smith pawb i'r Capel Mawr a rhoddwyd croeso arbennig i Anna Jane Evans o Cymorth Cristnogol a roddodd anerchiad am y sefyllfa drist yn Haiti ar ôl y daeargryn.
Cyfeiriodd hefyd at haelioni pobol tref Dinbych ar ôl i £2154.87 gael ei anfon at yr apêl ar ôl Bore Coffi hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair ar Ionawr 23. Mwynhawyd paned
chacennau ac
wedyn crempogau wedi eu
paratoi gan gyfeillion o Eg1wys y Santes Fair.
'Roedd Stondin Masnach Deg ac mae hyn yn bwysig os ydi tref Dinbych i gadw ei statws fel Tref Masnach Deg.
 |