| Nid yn unig mi gawson ni ŵr gwadd, ond mi ddaeth y gwr gwadd a'i ieir efo fo! Erbyn meddwl, go debyg na fu 'na erioed IEIR yng
Nghapel y Fron 'chwaith! Am wn i !
Roedd criw da wedi dod i gyfarfod agoriadol tymor newydd Merched y Wawr yn Ninbych, a phob un wedi edrych ymlaen at weld Russell Jones o Rosgadfan, cyflwynydd difyr a hwyliog y rhaglen 'Byw yn yr Ardd' ar S4C.
Pwy ddywedodd nad oes 'cymeriadau' y dyddiau hyn fel oedd ers talwm, deudwch? Wel, heb os nac oni bai, MAE RUSSELL YN GYMER!
Bachgen ei filltir sgwâr ydi Russell, wedi'i fagu ar lethrau'r Mynydd Grug yn ardal enedigol Kate Roberts, a heb erioed grwydro oddi yno - heblaw am bum mlynedd rhyw ddwy filltir i lawr y ffordd yn garddio ym Mhlas Dinas, Llanwnda. O'i blentyndod, roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y byd o'i gwmpas, a bellach, mae'n ymgeisio i fyw mor hunangynhaliol ag sydd bosib . Mae'n gredwr cryf mewn ailgylchu, tyfu cymaint a phosib o'i fwyd ei hun ac mae o hyd yn oed wrth ei fodd yn nyddu ac yn gwau!
Ond ieir yw ei gariad cyntaf, ac roedd ei frwdfrydedd yn heintus. Ei neges fawr oedd 'Da chi, ewch ati i gadw ieir! Nid yn unig mi gewch wy ffres bob dydd, mi gewch oriau o bleser hefyd.' Ac roedd ganddo syrpreis i ni. Mewn bocs mawr gwyrdd, roedd ganddo iar a cheiliog i'w cyflwyno i ni - a doedden ni ddim wedi clywed siw na miw ohonynt! Am weddill y noson, tra bu Russell yn siarad - ac am awr arall wedi hynny - bu'r ddau yn cadw golwg arnom. Roeddynt yn gwbl gartrefol ac yn amlwg wedi hen arfer a chadw cwmni i Ferched y Wawr!
 |