Diddorol oedd darllen yn eich rhifyn diwethaf atgofion am yr hen sinema. Aethant a fi'n ôl i ddyddiau fy ieuenctid gan fy mod wedi fy magu yn Tower Terrace dafliad carreg o'r Scala ac o fewn ugain llath i'r ystafell daflunio. Treuliais oriau lawer yn yr ystafell honno yn sgwrsio ac yn gweld y ffilmiau o'r fan honno. Yn ystod yr haf byddai drysau'r ystafell ar agor ac o'r tŷ byddem yn clywed sain y ffilm ar ei hyd, nes ein byddaru ar brydiau.
Os oeddem wedi gweld ffilm yn gynnar yn yr wythnos byddai'n hwyl gwrando ar y sain wedyn a dilyn yr hyn oedd yn digwydd. Gan ein bod yn byw mor agos byddem yn gwybod am bob ffilm fyddai'n cael ei dangos ac enwau'r sêr i gyd. Does ryfedd yn y byd fy mod fy mod wedi gwirioni ar ffilmiau ar hyd fy oes.
Gwir y dywedwyd fod ciwiau hir i weld amryw o'r ffilmiau. Cofier bod hyn i gyd cyn dyfodiad teledu ac mae'n siwr mai'r sinema oedd prif ffynhonnell adloniant yn enwedig yn ystod dyddiau tywyll y rhyfel. Pan ddangosid ffilm o bwys byddai'r tocynnau ar werth am 10.00 y bore. Rwy'n cofio Mam yn treulio amser hir yn aros am docynnau i weld Mrs. Miniver, Lassie Come Home a llu o glasuron eraill.
Aros am y matinee
Y pryd hynny mynd o un ciw i un arall oedd ei hanes oherwydd wedi cael tocynnau'r pictiwrs roedd angen sefyll mewn ciw wedyn am bysgod i ginio neu, ar adegau prin iawn, bananas o siop Solly Hyman.
Pan oeddem yn blant eistedd lawr grisiau oedd y drefn ac os oedd pres yn brin, fel bron bob amser, yn y seddau blaen a chael cric yn y gwddw am ein bod mor agos at y sgrîn. Dywedodd Glyn Hughes mai ar fore Sadwrn oedd y matinee yn ei ddyddiau ef. Ar brynhawn Sadwrn am 2.00 oedd yn fy nyddiau i.
Byddwn yn edrych o ffenestr ein tŷ i weld a oedd ciw ac wedyn rhuthro i gael sedd go lew. Y cof sydd gennyf yw mai ffilmiau cowbois a ddangosid bob Sadwrn - The Last of the Mohicans a 'Tom Mix' a danteithion cyffelyb. Yn aml dangosid ffilm ddoniol, un fel Laurel and Hardy, a nifer o gartwnau.
Roedd y sinema yn llawn bob pnawn Sadwrn ac ar brydiau byddem yn cael ein gorfodi i rannu sedd. Roeddwn wedi laru gwneud hyn yn enwedig gan mai hogyn digon bychan oeddwn ac o ganlyniad rhan fechan o'r sedd a gawn. Ar y ffordd allan un Sadwrn euthum at Mr. Rees y rheolwr i ofyn am hanner fy mhres yn ôl. Celpen gefais am fy nhrafferth!
Y sinema yn weithle
Bûm yn "gweithio" yn y sinema hefyd; os mai "gweithio" yw'r gair iawn. Roeddwn yn perthyn i'r St. John's Ambulance cadets a bob nos byddai dau o'r hogiau ar ddyletswydd yno rhag ofn i rywun gael ei gymryd yn wael.
Roedd yn hwyl ardderchog. Byddem yno yn ein uniform ac yno i'r ddau berfformiad, hynny yw, o 6.00 hyd at 10.00 gan weld y ffilm ddwywaith, a hynny am ddim. Nid wyf yn cofio i unrhywun fynd yn wael ond dyn â ŵyr beth fyddai wedi digwydd pe byddai rhywun wedi llewygu neu gael trawiad. Go brin y byddai gennyf obadeia beth i'w wneud.
Dywedodd Gwyneth mai'r rhaglen newyddion oedd un Pathe. Nid yn fy nyddiau i. British Movietone News ydoedd gan fy mod yn cofio'n dda am y chwiloleuadau (searchlights) yn symud o amgylch y sgrîn oedd yn rhan o gyflwyniad y rhaglen.
Sinema - y "neuadd garu."
Y sinema oedd y "neuadd garu" wrth gwrs. Yn ystod blynyddoedd cynnar ysgol uwchradd nid oedd arian ar gael i fynd â merch i'r pictiwrs. Yr ymadrodd felly oedd, "Welai di tu mewn" gan obeithio gael ei chwmni ond gan osgoi talu drosti. Ond wrth fynd dipyn yn hyn disgwylid i'r hogyn dalu a mynd i'r balconi. Dyna oedd tyfu fyny.
Unwaith pan oeddwn tua 16 oed fe es â merch i'r pictiwrs gan eistedd yn y rhes gefn ond un. Lle da i garu. Mae'n rhaid fy mod mewn cariad oherwydd treuliais y rhan fwyaf o'r ffilm yn caru a chusanu'r ferch ifanc. Pwy oedd yn eistedd y tu cefn i mi ond hogyn arall o'r Castell ychydig yn hŷn na mi. Ar ganol y ffilm cyffyrddodd fy ysgwydd a dweud, 'Gâd iddi gael gwynt rwan ac yn y man'
Oedd fe roedden nhw'n ddyddiau da.