| Ond canfod ei bod yn Gymraes sydd wedi byw yn y dref ers 1968, ac sydd â chysylltiadau cryf iawn â Dinbych cyn hynny. Fe'i ganwyd yn Rockferry - ei thad o Ynys Môn, a'i dad ef yn Weinidog a'i hewythyr yn gyn brifathro yn y Coleg Diwynyddol yn Aberystwyth (Hywel Harris Hughes - enw iawn i'r swydd). O ochr ei mam yr oedd y cysylltiadau hefo Dinbych. Yr oedd taid Mrs. Forster yn flaenor yn y Capel Mawr ac yn berchen Cwmni glo "Jones a Wynne". Gweithio gyda Ken Dodd Bu Megan Forster (o dan yr enw Megan Hughes) yn gantores yn y "Neuaddau Cerdd" (Music Halls) am flynyddoedd gan ymddangos yn ei thro hefo enwau fel Hetty King, Josef Locke a Donald Peers ac hefo Ken Dodd ar dechrau ei yrfa. Gan ei bod yn byw yn agos at ei gartref, bu'n prynu offer glanhau gan Ken, yn ogystal â chanu gydag ef wedyn. Un a fu'n hyfforddi Mrs. Forster oedd Furness Williams o Rhuthun oedd â Bu Megan Forster yn actio yn ogystal â chanu, ac yr oedd mewn cynhyrchiad La Vie Parisienne oedd yn cynnwys Patricia Routledge ("Mrs. Bucket") yn y cast - yn ei joben gyntaf. Y mae wedi cadw cysylltiad hefo sêr y presennol hefyd. Bu'n gweithio hefo'r "Southlanders", grwp oedd yn cynnwys tad Gary Wilmot a bu'n llythyru hefo Garry o ran gwybodaeth am ei dad. Wedi dros ugain o flynyddoedd o ganu proffesiynol, trodd Mrs. Forster at waith "Ymchwil Marchnata" a chael y gwaith hwnnw yr un mor ddiddorol. Bu ei diweddar wr, Ronald Forster, yn organydd yn Eglwys Bodelwyddan am tua deng mlynedd a bu hithau yn canu yn yr Eglwys, mewn cartrefi henoed ac mewn aml i gyngerdd elusennol, hyd yn gymharol ddiweddar. Bu'n peintio lluniau ac yn ysgrifennu a chynhyrchu dramâu gan gynnwys rhai yn Neuadd Bentref Trefnant yn y 1970au gan ennill yr ail wobr drwy Gymru yn Eisteddfod Gadeiriol Jiwbili Sefydliad y Merched yn 1975, wedi cael cyntaf yn Sir Ddinbych. Y mae Mrs. Forster yn parhau yn wraig fywiog a brwdfrydig yn ei 80au, a'i hymddangosiad o bwys arbennig iddi - rhan o'i phrofiad fel perfformwraig. Nid ydym yn aml yn ymwybodol o'r cymeriadau neilltuol o ddiddorol sy'n byw yn ein plith. E.D.J.
 |