Fe gyhoeddwyd 10 rhifyn yn flynyddol ers hynny trwy ymdrech nifer fawr o wirfoddolwyr tros y cyfnod yma.
Wrth lunio'r sylwadau hyn daeth y newyddion na fydd papur dyddiol Cymraeg yn cael ei gyhoeddi wedi'r cwbl, a hynny oherwydd prinder tanysgrifwyr a rhy ychydig o gefnogaeth ariannol gan y Cynulliad.
Mae hyn yn siom fawr i'r rhai ohonom a fu'n edrych ymlaen i gael ein newyddion dyddiol yn ein hiaith gyntaf ac yn dangos diffyg gweledigaeth a hyder yn nyfodol yr Iaith.
Yn ôl at y Bigwn. Mae unrhyw un sydd wedi dal gafael ar y 200 rhifyn a gyhoeddwyd hyd yma yn berchen ar gofnod cymdeithasol gwerthfawr iawn o fywyd Dinbych.
Mae pori trwy'r rhifynnau cyntaf yn hynod ddiddorol. Ar y dudalen flaen y rhifyn cyntaf mae llun Dylan Wyn Williams wedi iddo ennill gwyliau tramor mewn cystadleuaeth gan y BBC.
Mae Dylan bellach yn un o ddarlledwyr mwyaf poblogaidd Radio Cymru gyda'r rhaglen "Dylan a Meinir" bob prynhawn.
Ceir llun o Bryn Williams yn edrych yn ddiniwed yn ei wisg Ysgol Twm o'r Nant, a Bryn bellach yn enwog fel cogydd mewn bwyty adnabyddus yn Llundain.
Daw tristwch hefyd o ddarllen hanes ac edrych ar luniau rhai sydd wedi ein gadael ers blynyddoedd. Daw tristwch o fath gwahanol wrth weld hysbysebion busnesau a siopau'r dref sydd bellach wedi cau.
Medrwn ymfalchïo fod tref fel Dinbych wedi llwyddo i gynnal papur bro am gynifer o flynyddoedd. Diolchwn i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed tros y cyfnod yma i wneud yn siŵr fod y Bigwn ar gael ar y Sadwrn cyntaf o bob mis.
Er bod newidiadau ymysg y golygyddion, y cyfranwyr a'r hysbysebwyr, mae un cyfraniad wedi bod yn ddigyfnewid tros 20 mlynedd, a hwnnw yw'r cartŵn. Mae dawn a chefnogaeth ein cartwnydd Huw Vaughan Jones wedi bod yn anhygoel, a mawr yw ein dyled iddo.
A beth am y dyfodol? Yn sicr mae angen mwy o waed newydd i gynorthwyo ac i rannu'r baich fel bod 'Y Bigwn' yn mynd ymlaen yn hyderus am ugain mlynedd a mwy eto.
Byddai'n braf hefyd derbyn adroddiad gan fwy o fudiadau, ysgolion a chapeli'r dref er mwyn cael gwell amrywiaeth, a thrwy hynny ddenu mwy o ddarllenwyr.
Oes mae gennym achos dathlu. Ac wrth edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni mae'n bwysig hefyd edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol ac ymroi i gyfrannu, hysbysebu a phrynu'r Bigwn am flynyddoedd i ddod.