| Nos Sadwrn, Ionawr l0ed cefais wahoddiad i agoriad arddangosfa o waith arlunydd lleol, Andrew Lloyd Jones, a braint oedd cael bod yno, nid yn unig am ei fod yn perthyn, ond i weld casgliad amrywiol o waith yr arlunydd talentog yma. Nid yn unig fod yna amrywiaeth yn nhestunau'r darluniau ond hefyd y ffaith ei fod wedi defnyddio gwahanol gyfryngau fel dyfrlliw, pastel, pen ag inc ac olew ar gynfas. Fel y dywedais eisoes, hogyn lleol yw Andrew, mab i Ken a Beryl Jones, Bryn Gwenallt, Ffordd y Rhyl. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frongoch, Ysgol Uwchradd Dinbych ac yna cwrs HND pedair blynedd yng Ngholeg Dylunio Wrecsam. Yna aeth i Lundain gyda'i gyfeillion am flwyddyn. Yno cafodd asiant darluniau a gwaith gyda chylchgronau. Dychwelodd i Ogledd Cymru lle bu yn gweithio ar ei liwt ei hun fel darlunydd am ddeng mlynedd (yn ystod y cyfnod yma bu yn ddiffoddwr tan rhan amser yn Ninbych). Penderfynodd deithio'r byd am flwyddyn a dychwelodd i weithio i'r Chester Chronicle yn 1993 ond parhaodd hefyd i weithio ar ei liwt ei hun yn dylunio cloriau llyfrau a gwaith comisiwn. Hyd heddiw mae yn dal i weithio i grwp papurau Trinity Mirror North Wales yng Nghyffordd Llandudno, ond bellach wedi rhoi i fyny y gwaith darlunio ac yn canolbwyntio ar waith arddangos a chomisiynau. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Llannefydd gyda'i wraig Nicky (sydd yn gweithio fel Darlithydd Nyrsio Hyn yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam) a'u dau fab, Louis sydd yn 5 oed a Harley 3 oed. Cefais gyfle i gael sgwrs gyda Andrew am ei waith. Dywedodd ei fod yn mwynhau paentio ffigurol a cheisio dal fflach a hanfod y person, ac er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid astudio'r person yn fanwl. Mae yn mwynhau yn bennaf defnyddio pastel, yn enwedig teimlad y defnydd, sydd yn rhoddi'r ddawn iddo ddal y sefyllfa yn gyflym. Roedd defnyddio gwahanol ddulliau yn gwneud y darluniau yn fwy diddorol i'r gwylwyr. Mae wrth ei fodd yn paentio ardaloedd y mae wedi ymweld a hwy ac yn eu caru. Yr arddangosfa bresennol yw yr ail un iddo a'r un pennaf. Roedd wrth ei fodd o fod wedi cael y cyfle i arddangos yn ei dref enedigol. Cymerodd un mis ar ddeg i baratoi a daeth y cyfan at ei gilydd yn y pedwar mis a hanner olaf. Cafodd gymaint o bleser o fynd i'w stiwdio a chyfaddefodd mai hwn oedd y profiad mwyaf artistig oedd wedi ei gael ers blynyddoedd. Bwriad Andrew yn y dyfodol ydi arbrofi gyda gwahanol gyfryngau, llai o waith ffigurol a mwy o dirluniau. Ei fwriad yw creu arddull arbennig a fydd yn cael ei adnabod fel gwaith Andrew Lloyd Jones. Mae'r arddangosfa ymlaen tan y 14eg o Chwefror - cymerwch y cyfle i'w gweld.
 |